Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Ysgol Ffydd
Image caption A ddylid gwahardd ysgolion ffydd?

Un blog sydd bob tro'n procio'r meddwl ac yn codi trafodaeth yw Anffyddiaeth. Mae cryn sylw wedi'i hoelio'n ddiweddar ar y newyddion bod eithafwyr crefyddol yn ymdrechu i ennill rheolaeth dros ysgolion yn Lloegr er mwyn gorfodi athrawiaethau Islamaidd ar y disgyblion.

Yn ôl y blogiwr, mae ateb eithaf syml i'r broblem: dylid gwahardd ysgolion ffydd yn gyfan gwbl - a diddymu pob defod grefyddol o bob ysgol.

Rhagrith meddai yw cwyno am orfodi arferion Islamaidd ar blant ar un llaw tra'n cefnogi system sy'n ei gwneud yn ofynnol - trwy ddeddf gwlad - i ysgolion arwain disgyblion mewn gweddi Gristnogol bob wythnos. Mae pawb sy'n gwneud hynny wedi hen ildio'r tir uchel moesol.

Dyddiau ysgol

Does gan Glyn Adda fawr i'w ddweud wrth unrhyw ysgol. Ar ei flog 'Gofod ymarferol ac ardal chwarae' dwed yn ddigon pendant nad yw erioed wedi delfrydu ysgol am iddo fod ynddi, nac am ei bod yn fechan, na delfrydu ysgol o gwbl.

Lle o helbul yw ysgol meddai, gyda thipyn o hwyl weithiau i wneud bywyd yn weddol oddefadwy. Y peth da ynghylch ysgol ddyddiol yw ei bod yn cau am hanner awr wedi tri, a'r peth da ynghylch ysgol yn gyffredinol yw ei bod yn dod i ben.

Image copyright Rights Managed
Image caption Oedd ysgolion mor ddrwg yn yr oes a fu?

Ond mae wedi bod yn darllen am y cynlluniau i agor ysgol yn y Groeslon: "Bydd yr ysgol newydd," darllenwn, "yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd grŵp, gofod ymarferol, neuadd fodern, cyfleusterau ar gyfer staff a sawl ardal chwarae i'r plant."

Ac mae'n holi be wnaethom ni, dwedwch, yr holl flynyddoedd heb ystafelloedd grŵp?

A be wnawn ni yn y gofod ymarferol? Sut neuadd yw neuadd fodern? A fydd chwarae mewn ardal chwarae yn wahanol mewn rhyw ffordd i chwarae mewn iard neu gae fel y byddem ni ers talwm?

Dyw hyn i Glyn Adda'n ddim mwy na jargon anfad byd addysg. Rwtshi-ratsh.

Jargon Cymraeg

Ac wrth edrych yn ôl dros bymtheng mlynedd o fodolaeth y Cynulliad Cenedlaethol, yn y Western Mail mae Lefi Gruffudd yn nodi mai un o'r pethe y gallwn ni wir ymhyfrydu ynddo o safbwynt y Gymraeg yw'r cynnydd mewn jargon.

Er nad yw wedi darllen dogfen Carwyn Jones ar y Gymraeg eto, dyw'r hyn mae'n ei glywed amdani, gyda'i sôn am "gynlluniau peilot" a "chymorthfeydd busnes" ddim yn ei ysbrydoli.

Mae 'na lawer sy'n annealladwy yn y byd hwn ers 15 mlynedd meddai, a fydd y jargon a'r sôn am "sylfeini cadarn" a "chyflawni" ddim yn ddigon i ddatrys yr "heriau allweddol" sy'n wynebu'r Gymraeg.

Gwahanol feddylfryd

Image caption Oes gan Gymry ddealltwriaeth gul o genedlaetholdeb?

Dros y mis diwethaf mae'r cyfreithiwr Gwion Lewis wedi bod yn ystyried annibyniaeth a chenedlaetholdeb mewn cyfres o raglenni ar Radio Cymru, ac ar wefan Cymru Fyw mae'n trafod ei gasgliadau.

Y wers bwysicaf iddo ei dysgu yw bod ein dehongliad ni o 'genedlaetholdeb' yn llawer mwy cul nag yn yr Alban a llawer o wledydd eraill. Y gred y dylid hyrwyddo'r diwylliant brodorol yw 'cenedlaetholdeb' i ni yng Nghymru, ac mae tuedd i ni weld 'annibyniaeth' drwy'r sbectol honno.

Ond wrth holi pobl yng Nghaeredin, sylwodd Gwion Lewis nad oedd cenedlaetholdeb Albanaidd yn fwy cymhleth, ar y cyfan, na chredu mai'r bobl sy'n gwybod sut i redeg yr Alban orau yw'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yno.

Rhywbeth ar yr ymylon yw unrhyw syniad fod 'diwylliant' yr Alban angen ei 'ddiogelu'. Nid yw hynny'n awgrymu o gwbl meddai y dylid arafu'r ymdrechion i gryfhau'r Gymraeg.

Ond mae'n golygu gwahaniaethu rhwng yr ymgyrch gyfansoddiadol a'r frwydr ddiwylliannol a gofyn, o ddifrif, pa un sydd yn fwyaf tebygol o greu'r amodau er mwyn i'r diwylliant Cymraeg ffynnu yn y tymor hir.

Straeon perthnasol