Elyrch yn arwyddo Bafetimbi Gomis

Bafetimbi Gomis Image copyright Getty Images
Image caption Mae wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd.

Mae Abertawe wedi arwyddo'r ymosodwr Bafetimbi Gomis.

Roedd Gomis, 28, allan o gontract ar ôl treulio bron i bum mlynedd yn Lyon, Ffrainc lle sgoriodd 56 gôl mewn 120 o gemau cynghrair.

Mae wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd.

Mae e wedi ennill 12 cap dros Ffrainc, gan sgorio tair gôl.

Daeth ei ymddangosiad olaf i Les Bleus wrth iddyn nhw golli 3-0 yn erbyn Brasil ym mis Medi.

Ef yw'r ail chwaraewr i gael ei arwyddo gan Garry Monk ers iddo ddod yn rheolwr yn Stadiwm Liberty.

Y cyntaf oedd y golwr Lukasz Fabianski o Arsenal, y mae ei gontract gyda'r Gunners yn dod i ben ar ddiwedd mis Mehefin.