Fiji yn yr un grwp â Chymru eto

Fiji

Mae Fiji yn darganfod eu hunain yn yr un grŵp a Chymru mewn Cwpan y Byd am y trydydd tro yn olynol.

Fe guron nhw Ynysoedd y Cook 108-6 er mwyn hawlio eu lle yn grŵp A ar gyfer y twrnamaint.

Bydd y gêm rhwng Cymru a Fiji'n cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm ar Hydref 1, 2015.

Hon fydd trydedd gêm y twrnamaint i Gymru.

Mi fydd eu gêm gyntaf yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd yn erbyn enillydd y gemau ail gyfle, sef un ai Rwsia, Uruguay, Hong Kong neu dîm o Affrica.

Bydd Cymru yna'n herio Lloegr yn Twickenham.

Y Saeson oedd yn llwyddiannus yn eu cais i gael cynnal Cwpan y Byd 2015 gan guro ceisiadau gan yr Eidal, Japan a De Affrica.

Stadiwm y Mileniwm yw'r unig leoliad ar gyfer gemau sydd y tu allan i Loegr.

Record Cymru yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd

  • 2007: Cymru 34-38 Fiji
  • 2011: Cymru 66 - 0 Fiji
  • 2015: Cymru ? - ? Fiji

Straeon perthnasol