Y Tywysog Charles a Duges Cernyw yng Nghymru

Y Tywysog Charles yn ffatri fwyd Cnwd Image copyright PA
Image caption Y Tywysog Charles yn ymweld â ffatri Cnwd yn Sir Gâr

Mae'r Tywysog Charles yn ymweld â Chymru'r wythnos hon gyda'i wraig, Duges Cernyw.

Themâu'r daith ha' flynyddol eleni yw "dathlu Cymru heddiw, ddoe a'r dyfodol".

Cychwynnodd y daith yn y gorllewin cyn i'r ddau fynd i'r brifddinas â'r canolbarth.

Dydd Llun aeth y Tywysog Charles i ffatri Cnwd yn Cross Hands ger Llanelli cyn mynd i Felin Tregwynt ger Abergwaun, Creative Skillset Cymru yn Hwlffordd a Ffatri Gaws Cenarth.

Yn ffatri Cnwd cafodd gyfle i weld staff yn mygu brithyll y môr gafodd eu dal gan gwryglwyr.

'Wythnos brysur'

Image copyright PA
Image caption Y Tywysog Charles yn cyfarfod pobl leol, gan gynnwys Nancy Davies 95 oed o Landybie
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Aled Scourfield

Fel Noddwr Gwlad Cambrian roedd y Tywysog am ymweld â Melin Tregwynt ger Abergwaun sy'n cyflogi 30 o staff.

Y nod yn Hwlffordd oedd dathlu'r diwydiant ffasiwn a thecstiliau.

Dywedodd cyfarwyddwr Creative Skillset Cymru Gwawr Thomas: "Mae ffasiwn a thecstiliau yn is-sector bwysig y diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn cyflogi ychydig llai na 10,000 o bobl mewn bron i 3,000 o fentrau."

Meddai llefarydd ar ran Clarence House: "Y mae'r Tywysog a'r Dduges yn edrych ymlaen at wythnos brysur yn dathlu treftadaeth unigryw Cymru, gan gynnwys Cristnogaeth Geltaidd a gwaith Dylan Thomas.

"Y mae Eu Huchelderau Brenhinol yn awyddus i dynnu sylw at lwyddiannau'r Gymru fodern fel gwaith cynhyrchu'r Raspberry Pi yn Sony ym Mhencoed a bwydydd amheuthun cynhyrchwyr crefftus ledled y wlad."

Image caption Y Tywysog Charles ym Melin Tregwynt
Image copyright PA
Image caption Gorffennodd y Tywysog y diwrnod ag ymweliad â Chaws Cenarth a'r perchennog Carwyn Adams sy'n egluro'r gwaith gaiff ei wneud yno

Straeon perthnasol