Achub tad a mab

Tryfan peak appearing from cloud, with Brocken image captured Image copyright Jeff Richardson
Image caption Tryfan

Cafodd tad a mab eu hachub ar ôl mynd i drafferthion ar Fynydd Tryfan yn Eryri ddydd Sul.

Bu'n rhaid galw am gymorth hofrennydd yr awyrlu o Fali i dywys y ddau o'r mynydd 3,000 troedfedd.

Yn ddiweddarach ar yr un diwrnod bu'n rhaid galw am gymorth timau achub ar ôl i gerddwr anafu ei goes ar Crib Goch. Aed ag ef i Ysbyty Gwyned ym Mangor.