Adroddiad i ddamwain awyrennau Tornado

Awyr-lefftenant Hywel Poole Image copyright PA
Image caption Awyr-lefftenant Hywel Poole

Byddai system rhybudd awyrennau wedi helpu atal dwy awyren Tornado'r Awyrlu rhag taro ei gilydd, yn ôl ymchwilwyr damweiniau awyr.

Bu farw tri dyn, gan gynnwys yr Awyr-lefftenant Hywel Poole o ardal Bangor, yn y digwyddiad rhwng awyrennau canolfan Lossiemouth yn Yr Alban yn 2012.

Doedd gan yr un o'r awyrennau system rybuddio rhag gwrthdaro.

Fe wnaeth yr ymchwiliad 18 mis, gan yr Awdurdod Hedfan Milwrol, hefyd gofnodi 16 o ffactorau eraill wnaeth gyfrannu at y ddamwain.

Roedd y rhain yn cynnwys tywydd gwael a diffyg yn y system goruchwylio.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yr argymhellion wedi cael eu gweithredu.