Gwerthu hen swyddfeydd cyngor mewn arwerthiant

Swyddfa's Sir Image copyright Ceredigion council
Image caption Roedd Cyngor Ceredigon wedi gobeithio gwerthu hen adeilad Swyddfa'r Sir

Fe fydd adeilad a gafodd ei ddefnyddio yng nghyfres drama'r BBC Y Gwyll yn cael ei werthu mewn arwerthiant ar ôl i'r perchnogion fethu a'i werthu.

Rhoddodd Cyngor Ceredigion Swyddfa'r Sir yn Aberystwyth - hen adeilad llys ynadon, sydd wedi ei gofrestru Gradd II - ar werth yn Hydref 2013.

Er ei fod yn un o'r adeiladu mwya' ar y prom yn y dref a bod 'na ddiddordeb wedi bod doedd 'na ddim cynigion cadarn.

Cafodd yr adeilad - a godwyd yn 1866 - ei ddefnyddio gan y cyngor rhwng 1950 a 2009.

Yn wreiddiol gwesty oedd ar y safle, y Queen's Hotel.

Arwerthiant cyhoeddus

Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn gartref i orsaf heddlu, deintyddfa, swyddfa gofrestru a chartref i archifau'r cyngor yn ogystal â llys ynadon.

Ar ôl i Gyngor Ceredigion symud i swyddfeydd newydd gwerth £15 miliwn yn 2009, doedd dim angen yr adeilad bellach.

Ychwanegodd y cyngor eu bod nawr yn ystyried dull arall addas o werthu ac y bydd yn cael ei gynnig yn fuan mewn arwerthiant cyhoeddus.

Dywedodd cyfarwyddwr Fiction Factory Gethin Scourfield, a weithiodd ar ddrama'r Gwyll bod yr adeilad yn lleoliad yn y gyfres ac yn swyddfeydd ar gyfer y cynhyrchiad.

"Roedd yn ddelfrydol i ni, roedd ei safle yn wych ar y prom.

"Roedd yn adeilad awdurdodol ac yn addas iawn fel y swyddfa heddlu i ni yn y gyfres."

Ychwanegodd eu bod fel cwmni wedi gobeithio defnyddio'r adeilad eto wrth i'r gwaith ffilmio gychwyn fis Medi ar ail gyfres Y Gwyll.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.