Owen Williams mewn ysbyty yng Nghaerdydd

Owen Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Owen Williams driniaeth mewn ysbyty yn Singapore wedi'r anaf cyn hedfan nôl i Gaerdydd

Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod eu canolwr, Owen Williams, wedi dychwelyd i Gymru ar ôl cael "anaf sylweddol" i'w wddf yn ystod twrnament yn Singapore yn gynharach yn y mis.

Cafodd Williams ei gludo'n ddiogel mewn ambiwlans awyr o Singapore i Gaerdydd dros y penwythnos, yn ôl gwefan y rhanbarth.

Mae'n cael ei asesu a'i fonitro gan arbenigwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd y chwaraewr 22 oed ei anafu wrth chwarae i'r Gleision yng nghystadleuaeth y World Club 10s yn Singapore ar Fehefin 22 yn erbyn yr Asia Pacific Dragons.

Yn ôl gwefan y Gleision mae'r rhanbarth a theulu'r canolwr yn dymuno cymryd y cyfle i ddiolch i staff ac arbenigwyr Ysbyty Tan Tock Seng yn Singapore am eu gofal a'u cefnogaeth i Williams wedi'r anaf.

"Mae Owen a'i deulu hefyd eisiau diolch i'r rhai sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth iddyn nhw....

"Fe fydd gleision Caerdydd yn parhau i roi adroddiadau pan fo'n addas am gyflwr Owen ond rydym am barchu dymuniad y teulu i gael preifatrwydd," ychwanegodd y datganiad ar y wefan.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.