Achos cynllwyn i lofruddio: Carcharu pedwar

L-R: Gary Rabjohns, Ryan Battersby, Brogan Hooper, Lewis Bridge Image copyright Gwent Police
Image caption Euog: Gary Rabjohns, Ryan Battersby, Brogan Hooper, Lewis Bridge

Mae pedwar dyn o Gasnewydd wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 48 o flynyddoedd am gynllwynio i lofruddio.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth rheithgor benderfynu bod Lewis Bridge, Brogan Hooper, Gary Rabjohns a Ryan Battersby wedi defnyddio car i daro yn erbyn car arall a saethu'r rhai yn y car yn fwriadol.

Digwyddodd hyn ar Ffordd Cas-gwent fis Medi diwethaf.

Clywodd y llys fod y cynllwyn i ladd wedi digwydd gan fod un ohonyn nhw mewn dyled i gang o droseddwyr o Fanceinion.

Dydd Llun clywodd y llys fod gan y pedwar record droseddol.

Roedd Rabjohns wedi ei gael yn euog o dair trosedd, gan gynnwys un o gyflenwi cyffuriau.

Clywodd y llys fod gan Battersby "nifer" o droseddau yn ei erbyn, a'r un oedd yn wir am Bridge gan gynnwys un o ddefnyddio trais wrth ladrata.

Ymhlith y troseddau yn erbyn Hooper roedd un o gyflenwi canabis.

Cafodd y pedwar eu dedfrydu i gyfnod o 12 mlynedd o garchar yr un.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.