Canu gwerin 'angen ei ystyried fel sector broffesiynol'

Eluned Haf
Image caption Mae llwyddiant WOMEX wedi rhoi hyder bod Cymru yn medru denu digwyddiadau eraill, meddai Eluned Hâf

Mae angen i gerddorion gwerin yng Nghymru weld y sector fel un proffesiynol a "dim fel rwbath i wneud ar benwythnos", meddai Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Yn ôl Eluned Hâf, mae gwneud hynny yn her ac yn mynd i gymryd amser ond mae'n argyhoeddedig y gallai artistiaid gwerin yng Nghymru ennill bywoliaeth trwy eu gwaith.

"Dydy o ddim yn mynd i fod yn gannoedd. Ond os 'da ni yn edrych ymlaen 10 mlynadd mi ddylsa ni ystyried bod 'na fandiau, bod ni ddim mewn sefyllfa lle jest 9Bach sy'n 'neud o."

Mae dros chwe mis ers i wŷl WOMEX ddod i Gaerdydd. Tra'n dweud y bydd yn rhaid aros am flynyddoedd i wybod yr union waddol, mae'n rhestru sawl cerddor sydd wedi elwa o'r wŷl - gan gynnwys Georgia Ruth, sydd wedi bod yn perfformio yn Hanoi, Calan sydd ag asiantaeth yn gweithio ar eu rhan yn America, a'r band ifanc Plu. 'Odd pawb wedi syrthio mewn cariad efo nhw," meddai.

Amseru iawn

Mae'n cydnabod bod cadw'r momentwm wedi'r digwyddiad wedi bod yn anodd mewn cyfnod o bwysau ariannol.

"Ond os fysa ni heb gael WOMEX dw i'n meddwl y bysa hi'n lot anoddach cyfiawnhau buddsoddiad o'r fath i fewn i gerddoriaeth yng Nghymru," ychwanegodd.

"Felly dw i'n falch ofnadwy bod ni 'di cael WOMEX yma ac ar yr amser yna achos, argian fawr, os fysa ni ddim, mae hyd yn oed gweld faint o ddarlledu cerddoriaeth gwerin sydd ar S4C o'i gymharu efo faint oedd 'na ddwy flynadd yn ôl, mae'n newid byd."

"Slow burner" ydy llwyddiant o fewn y sector cerddoriaeth byd, meddai, yn wahanol i bop a roc. Ond mae'n pwysleisio bod angen cefnogaeth a hyfforddiant ar yr artistiaid a bod rhaglen fel Gorwelion yn cynnig hynny.

Image copyright jacob crawfurd
Image caption £3 miliwn oedd gwerth WOMEX i economi Cymru

12 o gerddorion sydd wedi eu dewis ar gyfer cynllun Gorwelion, gyda'r nod o hybu talent newydd. Dydy hi ddim yn derbyn bod rhai o'r artistiaid wedi cael digon o sylw yn barod ac mae'n dweud bod Cymry yn rhy barod i feirniadu.

"Os ti meddwl faint o gefnogaeth mae bandia yn cael yn yr Alban, a hynny yn cael ei dderbyn a'i gefnogi, dwi'n meddwl bod hi'n hen bryd i ni weld petha' yn wahanol a bod yn hapus dros fandiau erill."

'Chwip dîn'

"Yn aml iawn pobl sydd mewn bandia eu hunain sy'n cwyno am fod nhw ddim wedi cael. Dwi'n meddwl bod hi'n bryd i ni aeddfedu'r ochr yna a deud y gwir. 'Da ni ddim di cael rhaglen fel Gorwelion o'r blaen."

Yr Alban sydd wedi ysbrydoli Cymru, meddai, am fod yna sîn werin gref iawn yno. Mae'n dweud bod yna gannoedd yn eistedd i lawr i wrando ar berfformiadau byw yno ond bod cynulleidfaoedd yma yn dal i fod yn 'fregus'.

Un o'r rhesymau, meddai, ydy fod pobl yn penderfynu munud olaf i fynd i weld gig a'u bod nhw rwan yn cael eu gwrthod wrth y drws.

"Ella bod Cymry Cymraeg angen chwip dîn 'chydig bach o ran hyn, o ran gweld fod pobl erill yn cael y tocynna'."

Ond mae'n ffyddiog bod modd denu mwy i fynd i wylio bandiau yn perfformio.

"Os ydyn nhw yn gallu gwneud o yn yr Alban mi allwn ni wneud o yng Nghymru. Ond mae o'n mynd i gymryd blynyddoedd. Mae honna' yn 10 mlynadd plus ond mae 'na obaith dwi'n meddwl."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC