Dyfodol Castell Rhuthun wedi ei ddiogelu

Castell Rhuthun Image copyright Jeremy Bolwell
Image caption Mae trefniadau oedd wedi eu gwneud, fel priodasau, i'w cadw a'r 100 o swyddi yng Nghastell Rhuthun

Mae 100 o swyddi wedi eu diogelu wrth i un o westai'r gogledd ddwyrain gael perchnogion newydd.

Mae 'na berchnogion newydd ar Gastell Rhuthun wythnos ar ôl i'r cyn-berchnogion fynd yn fethdalwyr.

Cafodd y gwesty 60 ystafell, sydd â bwyty a sba, ei ddiogelu o ganlyniad i gytundeb sy'n gweld y lle'n parhau ar agor ond o dan berchnogaeth newydd.

Mae'r cytundeb yn diogelu dyfodol yr adeilad cofrestredig Gradd II.

Stad Castell Rhuthun sydd wedi prynu'r gwesty mewn partneriaeth ar y cyd rhwng Kepler Capital a grwp Prima Hotel, sydd wedi ei leoli yn Sir Caer.

Dywed y perchnogion newydd fod y swyddi yn ddiogel ac y byddan nhw'n cydweithio gyda rheolwyr presenol y gwesty.

Fe fydd unrhyw drefniadau oedd wedi eu gwneud, fel priodasau, yn cael eu cadw gan y cwmni newydd.

Y cyn-berchennog, Anthony Saint-Claire, ydi cyfarwyddwr y cwmni newydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.