Portread newydd o'r Tywysog William gan arlunydd o Gymru

The canvas measures 90cm by 60cm (3ft by 2ft) Image copyright Dan Llywelyn Hall
Image caption Mae'r llun yn mesur 90cm x 60cm (3tr x 2 tr)

Bydd portread o Ddug Caergrawnt, sydd wedi ei beintio gan yr arlunydd Cymreig Dan Llywelyn Hall yn cael ei ddadorchuddio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae'r dadorchuddiad, fydd yn ddigwydd yn Swyddfa Cymru yn Whitehall ddydd Mercher, yn cyd-fynd a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'r Dug yn gwisgo pabi coch er coffa yn y llun.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r arlunydd 33 oed o Gaerdydd beintio portread o un o'r teulu brenhinol. Cafodd Dan Llywelyn Hall ei gomisiynu gan Undeb Rygbi Cymru fel yr arlunudd 'fengaf erioed i beintio llun o'r Frenhines yn 2013.

Bydd y portread yn mynd ar werth mewn arwerthiant arbennig i nodi canmlwyddiant ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Bonhams yn Llundain ar Hydref 1af, gyda'r elw i gyd yn mynd at Ymddiriedolaeth Croes Victoria ac Ymddiriedolaeth Coffa Rhyfeloedd.

Dywedodd yr arlunydd fod y portread, sydd a'r enw "Tadolaeth", yn frith o themau gwahanol, gan gynnwys y pryder, gobaith a dyheadau sy'n wynebu dyn teulu.

Mae'r arlunydd ar hyn o bryd yn gweithio ar gasgliad sydd wedi ei ysbrydoli gan waith Dylan Thomas, sydd i'w arddangos yn Llundain o fis Medi ymlaen.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.