Carwyn Jones yn pwysleisio manteision defnyddio'r Gymraeg i fusnesau

Carwyn Jones
Image caption Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn annerch arweinwyr busnesau yng Nghaerdydd.

Heno, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn pwysleisio manteision defnyddio'r Gymraeg pan fydd e'n annerch cyfarfod "rhyngweithio" i arweinwyr busnes.

Blaenoriaeth

Gobaith Mr Jones yw sicrhau bod yr iaith yn flaenoriaeth uwch i'r sector breifat, a gwella'r dealltwriaeth o fanteision defnyddio'r Gymraeg.

Meddai Mr Jones: "Mae'n amser i wrthbrofi rhai o'r camdybiaethau ynghylch y Gymraeg. Er enghraifft, y gamdybiaeth fod cynnig darpariaeth Gymraeg yn gymhleth ac yn gostus, nad oes galw am wasanaethau Cymraeg ac nad yw gwasanaethau Cymraeg o'r un safon a'r gwasanaethau Saesneg cyfatebol.

"Rwy'n awyddus i sicrhau bod busnesau'n gwybod y gall rhoi lle i'r Gymraeg yn eu gwaith fod yn syml a bod llawer o gefnogaeth ar gael. Rwy hefyd yn bwriadu pwysleisio'r ffaith y gall cynnig gwasanaethau Cymraeg ysgogi manteision sylweddol a sicrhau bod busnesau ar flaen y gad."

Mae'r digwyddiadau rhwydweithio yn deillio o'r ddogfen bolisi ddrafft "Bwrw Mlaen" sy'n disgrifio'r camau mae'r Llywodraeth yn bwriadu cymryd er mwyn cryfhau safle'r iaith yn ystod y tair blynedd nesaf.

Ymhlith y camau yma mae £400,000 wedi ei neilltuo i wella'r modd y mae busnesau'n darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn Nyffryn Teifi. Y nôd yw cyflwyno'r prosiect ar draws Cymru maes o law.

Bydd y cyfarfod i gynrychiolwyr byd busnes yn digwydd yng Ngwesty'r Park Plaza yng Nghaerdydd. Yno mae disgwyl i Mr Jones drafod ac annog defnydd y Gymraeg o fewn y gweithle a'r cyhoedd gyda chynrychiolwyr o fusnesau gan gynnwys, Sky Media, Dŵr Cymru a banc TSB.

Beirniadaeth

Ond dydi Cymdeithas yr Iaith ddim yn meddwl bod cynnal y math yma o ddigwyddiadau yn ddigon i hybu defnydd y Gymraeg yn y sector breifat. Mae nhw'n credu bod angen "camau polisi mwy sylweddol."

Meddai Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae gwir angen gwella defnydd o'r Gymraeg yn y sector preifat. Fodd bynnag, fydd camau fel hyn ddim yn ddigonol - mae angen camau polisi mwy sylweddol.

"Dyw'r Llywodraeth ddim yn defnyddio'r pwerau cyfreithiol sydd ganddi. Mae'r adroddiad economi iaith, er enghraifft, yn dweud y dylai fod amod ar bob grant a chytundeb er mwyn sicrhau bod busnesau yn darparu gwasanaeth Cymraeg. Ond does dim sôn am hynny yn y safonau iaith - y dyletswyddau iaith newydd sy'n cael eu llunio gan ei adran."

Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn Llanelli, Aberystwyth a Chaernarfon yn ystod y mis nesaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.