Gyrrwr beic modur wedi marw

Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 nos Lun. Fe darodd beic Kawasaki gwyrdd y dyn 22 oed yn erbyn llain ganol y ffordd ger Merthyr Tudful tua 18.30.

Bu farw'r dyn - oedd yn dod o ardal Dowlais - yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd nos Fawrth.

Nawr, mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad. Gall unrhywun welodd y beic modur yn cael ei yrru cyn y digwyddiad gysylltu â swyddogion ar 101.