Angladd dau fu farw ar yr A44

Martin Pugh a Margaret and John Kehoe
Image caption Bu farw Margaret Kehoe a'i gŵr John Kehoe yn y ddamwain

Mae angladd pâr priod fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberystwyth ym Mehefin wedi cael ei gynnal.

Bu farw John a Margaret Kehoe ynghyd â dau arall yn y gwrthdrawiad ar yr A44 pan darodd tancer, car a fan yn erbyn ei gilydd.

Roedd yr angladd am 10.30am yn Eglwys Ein Harglwyddes a Sant Richard Gwyn yn Llanidloes.

Cyn yr angladd dywedodd y teulu: "Mae'r marwolaethau'n golled fawr a'r boen yn fwy am iddyn nhw gael eu lladd yr un pryd ac mewn amgylchiadau trychinebus."

Ddydd Gwener bydd angladd y ddau arall gafodd eu lladd yn y ddamwain yn cael ei gynnal - Alison Hind oedd yn 28 oed, a'i hewythr, Martyn Pugh, oedd yn 47.

Fe gafodd cwest i farwolaeth y pedwar ei agor a'i ohirio gan Grwner Powys, Andrew Barkley.

Straeon perthnasol