Golffiwr 103 oed o Gymru'n marw

Errie Ball oedd un o'r chwaraewyr cyntaf i chwarae yn y Meistri yn Augusta
Image caption Cwrs Golff Augusta

Mae un o'r golffwyr a chwaraeodd ym mhencampwriaeth gyntaf y Meistri yn 1934 wedi marw 103 mlwydd oed.

Bu farw Samuel Henry 'Errie' Ball sy'n wreiddiol o Fangor ar 2 Gorffennaf yn Ysbyty Martin De yn Stuart, Florida.

Errie Ball oedd yr aelod olaf i oroesi o'r 72 o chwaraewr a fu'n cystadlu ym mhencampwriaeth gyntaf y Meistri yn Augusta, Georgia.

Dywedodd Llywydd PGA America, Ted Bishop: "Bydd colled fawr iawn ar ei ôl, bydd ei atgof yn parhau drwy nifer chwaraewyr proffesiynol y PGA mae wedi eu hysbrydoli."

Cafodd Mr Ball ei gyflwyno i'r gamp gan ei dad, William Henry Ball, a dreuliodd hanner canrif fel chwaraewr proffesiynol yng Nghlwb Golff Lancaster.

Symudodd Mr Ball i'r Unol Daleithiau yn 1930 i ddilyn ei yrfa golffio.

Roedd Mr Ball yn 23 oed pan orffenodd yn 38ain ar y cyd ym Mhencampwriaeth Gwahoddiad Cenedlaethol Augusta cyntaf yn 1939 - sef pencampwriaeth Y Meistri.

83 mlynedd

Fe fu Mr Ball yn cystadlu eto yng Nghlwb Golff Cenedlaethol Augusta ym 1957, gwasanaethodd fel chwaraewr proffesiynnol PGA mewn clybiau yn Virginia a Illinois a bu'n athro golff am flynyddoedd lawer.

Cafodd ei gynnwys yn neuadd anfarwolion Illinois yn 1990, ac yn 2011 cafodd ei anrhydeddu i neuadd anfarwolion Golffwyr Proffesiynol y PGA.

Mae Errie Ball yn gadel gweddw, merch, a'i frodyr Tom a John.