Fin Nos Fan Hyn

Digwyddiad rhyfedd braidd oedd yr ŵyl i nodi saith ganmlwyddiant brwydr Bannockburn y bues i'n ffilmio ynddi dros y Sul.

'Visit Scotland' oedd wedi trefnu'r peth ac, fel y gellir dychmygu, ar drothwy refferendwm annibyniaeth yr Alban fe wnaeth y corff hwnnw ei orau glas i geisio sicrhau bod y dathliadau yn wleidyddol niwtral. I raddau fe wnaethon nhw lwyddo yn hynny o beth o safbwynt y digwyddiadau ffurfiol. Y cyfan ddywedaf i yw bod sticeri 'na' yn bethau prin ar faes y gad a bod 'na ddim llawer o groeso i'r gŵr dewr oedd yn defnyddio ymbarél jac yr undeb i gysgodi rhag y glaw!

Doeddwn i erioed wedi bod i Bannockburn o'r blaen ond mae'r maes yn cynnwys casgliad rhyfedd o gofebion o wahanol gyfnodau - carn a godwyd gan y siambr fasnach leol, cerflun o Robert the Bruce, a ddadorchuddiwyd gan y Frenhines o bawb, ynghyd a rotwnda a chanolfan ymwelwyr a godwyd yn gymharol ddiweddar.

Dydw i ddim yn gallu meddwl am safle cyfatebol yng Nghymru - hwyrach oherwydd na chafwyd buddugoliaeth gyffelyb. Mae 'na gofebion bychan yn nodi lle ymladdwyd brwydrau Mynydd Hyddgen a Brynglas ond byrhoedlog oedd llwyddiannau Glyndŵr a phrin yw'r rheiny sy'n ymweld â'r safleoedd.

Mewn gwirionedd mae'r gofeb yng Nghymru sy'n dod agosaf at Bannockburn yn nhermau ein seicoleg genedlaethol yn coffau colled yn hytrach 'na buddugoliaeth. Cofeb Cilmeri yw honno.

Fel mae'n digwydd mae 'na ddeiseb gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd yn tynnu sylw at y ffordd y mae'r gofeb honno'n cael ei hesgeuluso braidd ac yn galw am weithredu cynllun dehongli a gomisiynwyd gan Cadw y llynedd.

Mae'r ddeiseb yn un ddigon rhesymol ond mae'r cysylltiad fu rhwng cofeb Cilmeri a chenedlaetholdeb eithafol ffug-filwrol o hyd yn taflu ei gysgod dros unrhyw drafodaeth.

Roedd yr un peth yn wir am Bannockburn, wrth gwrs. Am ddegawdau roedd rali Bannockburn yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i'r SNP - ond fel yng Nghilmeri doedd y trefnwyr ddim yn gallu rheoli pa grwpiau a pha faneri oedd yn bresennol. Erbyn dechrau'r ganrif hon roedd y digwyddiad yn dechrau troi'n embaras.

Mewn erthygl ddadleuol yn ôl yn 2003 fe ddywedodd Kenny MacAskill, sydd bellach yn aelod o gabinet yr Alban hyn.

"Should the Bannockburn rally, with its celebration of victory over the English, remain an accepted part of the SNP's calendar? The answer has to be no. Bannockburn's position in the psyche of the party and the people must change. We must advance — both as a party and as a nation — and stop defining ourselves in terms of a victory over the English.

It is time for Scotland to take a long, hard look at itself. To move on from defining ourselves against past glories, illusionary or otherwise. To celebrate Scottish successes not revel in English defeats. To be confident in ourselves not arrogant towards others.

For the SNP, this means projecting ourselves as a national party and not allowing ourselves to be perceived as a narrow nationalist one. For the Scots, it means celebrating who we are, both at home and abroad, with both Scots and non Scots. Not condemning the "auld enemy" in an exclusive and isolationist manner."

Tybed oes 'na rywun yn fodlon dweud rhywbeth tebyg ynghylch Cilmeri?