'Llundain yn amddifadu'r gweddill'

Amgueddfa Cymru
Image caption Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Amgueddfa Cymru yn uniongyrchol

Mae cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru wedi dweud bod Llundain yn "llwgu" amgueddfeydd ac orielau yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Dywedodd David Anderson, sydd hefyd yn llywydd Cymdeithas yr Amgueddfeydd, bod sefydliadau mewn tair bwrdeistref yn Llundain wedi derbyn swm "anghymesur" o'r cyllid cyhoeddus sydd ar gael.

"Mae hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn yn mynd i'r sefydliadau cenedlaethol (yn Southwark, San Steffan, a Kensington a Chelsea), a hefyd - sy'n gwneud gwahaniaeth mawr - hanner biliwn o bunnoedd o arian preifat," meddai.

Dywedodd y gweinidog diwylliant John Griffiths, "nad oes amheuaeth bod Llundain yn fagnet aruthrol ar gyfer cyllid o bob math, cyhoeddus a phreifat, a'i bod yn ystumio'r sîn gelfyddydau yn y DU ac mae'n amlwg bod hynny'n rhoi ardaloedd eraill dan anfantais."

'Anghymesur'

Dywedodd Mr Anderson bod gan Llundain afael ar gyllid, a hynny ar draul y celfyddydau yng ngweddill y DU.

"Mae swm enfawr o arian cyhoeddus a phreifat yn mynd i ardal ddaearyddol fach iawn yn y DU. Maent yn cael swm anghymesur o arian cyhoeddus.

"Mae mwy na 70% o'r holl arian preifat - arian ymddiriedolaethau, gwaddolau ac arian corfforaethol - yn mynd yn unig i'r bwrdeistrefi hynny yn ogystal.

"Ac mae hyn yn golygu bod gweddill y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd yn cael eu llwgu o gyllid, mewn cymhariaeth, ar gyfer eu darpariaeth gelfyddydol a diwylliannol."

Yn ddiweddar, cyhoeddodd cyngor y celfyddydau yn Lloegr gynnydd yn y cyllid tu allan i Lundain, gydag Opera Cenedlaethol Lloegr yn cael toriad o 29% yn ei grant blynyddol fel rhan o'r ad-drefnu.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Amgueddfa Cymru yn uniongyrchol, ac mae'n darparu cyllideb flynyddol i Gyngor Celfyddydau Cymru i ddosbarthu i sefydliadau diwylliannol eraill.

'Iachach'

Ychwanegodd John Griffiths, "Yn amlwg rydym yn cael ein cyfran Barnett o wariant o ran y celfyddydau a diwylliant, ac mae wedi ei ddatganoli llwyr i Gymru.

"Felly yng Nghymru, rwyf yn meddwl ein bod yn llawer llai Caerdydd-ganolog fel petai, yn y ffordd rydym yn ariannu'r amgueddfa a'r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, eu bod yn llawer mwy gwasgaredig o amgylch y wlad sydd, yr wyf yn meddwl, yn llawer iachach.

"Ond hefyd, wrth gwrs o ran unigolion preifat, o ran y cwmnïau, yn nhermau gwaddolau, mae 'na ymdrech gyson i geisio sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg".

Ond dywedodd y beirniad diwylliannol Stephen Bayley, a anwyd yng Nghaerdydd ac sydd bellach yn byw yn Llundain, ei fod yn gamgymeriad i geisio hawlio rhywfaint o gyllid Llundain.

"Peidiwch â chwyno am Lundain, meddyliwch beth allech chi ei wneud yng Nghaerdydd. Gallech iro'r system gynllunio fel eu bod yn bosib i gael adeiladau newydd, gallech fod wedi cuddliwio cymorthdaliadau drwy annog rhenti isel, fe allech chi roi seibiannau treth i gwsmeriaid.

"A chofiwch, ni chafodd treftadaeth unigryw Caerdydd ei chreu gan gymorthdaliadau, cafodd ei chreu i raddau helaeth gan unigolyn preifat - yr Arglwydd Bute," meddai.

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnwys Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Amgueddfa Lofaol Big Pit ym Mlaenafon, yr Amgueddfa Wlân yn Felindre, Amgueddfa'r Lleng Rhufeinig yng Nghaerllion, Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau yn Abertawe a'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.