Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Vaughan Roderick
Image caption Bu Vaughan Roderick yn sgwrsio gyda nifer o bobl yn Glasgow

Ar y cyfan, mae Vaughan Roderick wedi cadw draw o refferendwm yr Alban ar ei flog.

Mae 'na hen ddigon o bethau diddorol wedi bod yn digwydd yno, meddai, ond anodd yw synhwyro o bell i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu.

Ond ar ymweliad â'r wlad yn ddiweddar, cafodd gyfle i flasu tipyn ar y ras, a sgwrsio gyda nifer o bobl ar stad o dai ar gyrion Glasgow.

Roedd un dyn yn ei 30au, nad oedd erioed wedi pleidleisio o'r blaen, am fwrw pleidlais o blaid annibyniaeth.

Doedd e ddim yn sicr iawn beth fyddai oblygiadau annibyniaeth ond o leiaf, fel roedd e'n ei gweld hi, fe fyddai'n cynnig y posibilrwydd o wlad fyddai'n fwy cyfartal.

Ar y llaw arall, roedd crwt 16 oed yn bwriadu pleidleisio o blaid yr undeb - neu yn hytrach yn erbyn annibyniaeth.

Gofynnodd Vaughan pam a dyma'r ateb a gafodd: "I'm just so scared".

A dyna ni, medd Vaughan, gornest wleidyddol glasurol - gobaith yn erbyn ofn - a'r ddau mor annelwig â'i gilydd.

Newsnight i Gymru

Does dim amheuaeth y bydd y trafod a'r dadlau am annibyniaeth yr Alban yn parhau dros y misoedd nesaf, yn y wasg ac ar raglenni radio a theledu.

A'r wythnos ddiwethaf, fel y dywed wrthym yn ei golofn yn Golwg, gofynnodd rhywun i Leighton Andrews gefnogi'r ymgyrch o blaid Newsnight i Gymru.

Wrth gwrs ei fod yn ei gefnogi meddai, ac yna, ar ôl dweud wrthym nad yw'n edrych ar y rhaglen, nac ar raglenni gwleidyddol yn gyffredinol, mae'n esbonio pam nad yw'r rhaglenni hyn bellach yn gyfraniad gwerthfawr i'r drafodaeth wleidyddol - dydyn nhw ddim yn deall llywodraethu na'r broses o wneud penderfyniadau.

Efallai, meddai, fod dydd y rhaglen wleidyddol hanner awr neu awr yn dod i ben.

Mae'r byd yn newid, a 'dyw Leighton Andrews ddim yn meddwl ei bod yn bosib atgyfodi'r hen fyd.

Mae Jeremy Paxman wedi gadael yr adeilad.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae dylanwadau o'r byd chwaraeon yn achosi i ddynion dreulio fwy o amser ar eu hedrychiad

Y Traddodiad Barfol

Tybed, yn ei ymddeoliad, ydi Mr Paxman wedi mynd ati unwaith eto i dyfu barf?

Yn ôl gwefan Cymru Fyw, o actorion i chwaraewyr pêl droed mae'r arferiad yn tyfu yn gyflymach na'r barfau eu hunain, a'r Traddodiad Barfol yn llewyrchus unwaith eto yng Nghymru.

Yn ôl Trystan Lewis sy'n cadw salon yn y Bontfaen, mae dylanwadau o'r byd chwaraeon a cherddoriaeth wedi achosi i ddynion dreulio lot fwy o amser ar eu hedrychiad, gyda David Beckham ymhlith y mwya' poblogaidd.

Ie, yr unig drueni yw nad oes llawer o ddynion barfog Cymru - heb sôn am chwarae pêl-droed - yn edrych gystal â David Beckham.

Image caption Mae Bethan Gwanas am i bobl roi'r gorau i geisio dod o hyd i ŵr iddi

Pobl sengl

Wn i ddim ydi hi'n hoffi dynion gyda barfau - beirf? - ond mae Bethan Gwanas wedi cael llond bol ar un peth heb os.

Yn ei cholofn yn yr Herald yr wythnos hon, mae ganddi gri o'r galon ar i bobl adael llonydd iddi, a rhoi'r gorau i geisio dod o hyd i ŵr iddi.

Naddo, meddai, dydw i ddim wedi priodi, ond dwi rioed wedi bod yn Ne Affrica chwaith, rioed wedi gwneud naid bynji, rioed wedi torri fy nghoes.

Dwi'm yn gwybod pam, dydi o jest ddim wedi digwydd.

Ac yn ôl Bethan dydi'r ffaith nad ydyn nhw'n briod ddim yn poeni'r bobl sengl gymaint â mae o i'w weld yn poeni pawb arall.

Ar ôl cael ambell i 'flind date' erchyll yn ystod ei 30au, mae hi'n ddigon hapus diolch yn fawr, er ei bod yn gallu gweld ar wynebau rhai pobl eu bod yn ceisio gweithio allan be goblyn sy'n bod arni.

Efallai y bydd yn priodi pan fydd ar ei zimmerframe, ond efallai ddim.

Mae 'na lot i'w ddweud dros allu gwneud be rydach chi isio, pan dach chi isio, heb ryw ffỳs fawr.

Ac mae'n anodd iawn dadlau gyda hynna.

Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.