Teyrnged i 'ferch ddisglair a llawn bywyd' o Lanfairfechan

Roedd Lisa Jones yn 19 oed Image copyright Arall
Image caption Roedd Lisa Jones yn 19 oed

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ferch 19 oed fu farw wedi i le tân awyr agored ffrwydro.

Bu farw Lisa Jones o Lanfairfechan ger Bangor yn Ysbyty Wythenshawe, Manceinion, ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Duke Street yn Chorley yn Sir Gaerhirfryn ar Fehefin 21 ar ôl i'r ferch gael ei llosgi'n ddifrifol.

Yn ôl yr heddlu, roedd y ffrwydrad ar ôl i rywun geisio cynnau'r lle tân.

Roedd Lisa wedi bod yn dilyn cwrs torri gwallt yng Ngholeg Llandrillo a dywedodd rheolwraig y salon, Anita Lewis: "Mi oedd hi'n ddisglair ac yn llawn bywyd. Yn sicr, mi oedd hi'n boblogaidd iawn efo'i chydfyfyrwyr a'i thiwtoriaid."

Mae dyn 19 oed o ardal Chorley wedi ei holi a'i ryddhau wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.