Carcharu Rolf Harris am ymosodiadau anweddus

Rolf Harris Image copyright Reuters

Mae'r diddanwr Rolf Harris wedi ei ddedfrydu i bum mlynedd a naw mis o garchar ar ôl cael ei ganfod yn euog o gyflawni cyfres o ymosodiadau anweddus.

Mi oedd yr ymosodiadau yn ymwneud gyda phedair o ferched rhwng saith a 19 oed. Mi ddigwyddodd yr ymosodiadau rhwng y 60au hyd at yr 80au.

Roedd y dyn 84 oed wedi gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Er i Rolf Harris gael ei eni yn Awstralia mi oedd ganddo gysylltiadau teuluol gyda Chymru. Cafodd ei dad, Cromwell George Harris, ei fagu yng Nghaerdydd ac mae gwraig yr artist, Alwen Hughes, hefyd yn Gymraes.

Yn 2011 cafodd cyfres ynglŷn ag arlunwyr oedd wedi eu hysbrydoli gan Gymru ei darlledu ar BBC Cymru Wales. Enw'r gyfres oedd Rolf on Welsh Art.