Dafydd Elis Thomas: Ymgyrchwyr iaith yn rhy negyddol

Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas
Image caption Mae'r Arglwydd Dafydd Elis Thomas wedi honni bod ymgyrchwyr iaith yn rhy negyddol

Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru Dafydd Elis Thomas, mae ymgyrchwyr iaith yn rhy negyddol.

Mae cyn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith yn dadlau y dylai ymgyrchwyr iaith gynnig atebion creadigol yn hytrach na dibynnu ar dactegau sydd heb eu haddasu i ddygymod â datganoli.

Dangosodd cyfrifiad 2011 bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng, gan gynnwys lleihad yn y niferoedd sy'n gallu siarad yr iaith yn ei chadarnleoedd.

Mae'r Arglwydd Elis Thomas wedi dweud wrth raglen Sunday Politics Wales bod ffigyrau'r cyfrifiad yn "ddiystyr" wrth geisio disgrifio sefyllfa'r iaith yng Nghymru.

Roedd nifer o wleidyddion yn siomedig gydag ystadegau'r cyfrifiad ynglyn â'r Gymraeg a dywedodd ymgyrchwyr iaith bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng.

Pesimistiaeth yn gamgymeriad

Yn ôl cyn Lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis Thomas, mae pesimistiaeth am ddyfodol yr iaith yn dilyn canlyniadau'r cyfrifiad yn gamgymeriad.

Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas: "Y cwbl mae'r cyfrifiad yn ddweud wrthom ni yw faint o bobl sydd wedi gadael cymuned benodol ac wedi symud i rywle arall.

"Tydi pobl ddim wedi rhoi'r gorau i siarad Cymraeg, ond yn hytrach mae pobl sy'n siarad Cymraeg heb eu cofrestru ar y cyfrifiad oherwydd eu bod nhw wedi symud tu allan i Gymru.

"Yn fy marn i, y peth pwysicaf ydi cymryd pob cyfle posib i ddarbwyllo pobl sy'n byw yng Nghymru, a sydd ddim yn siarad Cymraeg, i gefnogi darparu cyfleoedd i bobl sy'n siarad Cymraeg i wneud hynny neu iddyn nhw'i hunain gymryd rhan mewn digwyddiadau dwyieithog."

Image caption Mi osododd Cymdeithas yr Iaith bebyll o flaen y Senedd yn ddiweddar er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i newid eu polisïau iaith

Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas bod protestwyr yn parhau i ymgyrchu fel pe baent yn ymdrin â Llywodraeth y DU yn San Steffan, a heb addasu eu dulliau i fodolaeth Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn gwadu bod y mudiad yn rhy negyddol.

Dywedodd Robin Farrar: "Rydyn ni ... wedi cyhoeddi ein Maniffesto Byw, sydd yn becyn o argymhellion cadarnhaol, y math o bolisiau rydyn ni'n teimlo sy'n hanfodol er mwyn taclo'r argyfwng, er mwyn i bobl gael byw yn Gymraeg."

"Ers hynny rydyn ni wedi cyhoeddi ein bil cynllunio amgen ac rydyn ni wedi cyflwyno dogfennau polisi ym meysydd fel addysg, er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i bawb, sy'n hanfodol os ydyn ni am mynd i'r afael â'r argyfwng mae'r iaith yn ei hwynebu."

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fesurau i hyrwyddo'r iaith gan gynnwys buddsoddiad o £1.6 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i gryfhau'r cyswllt rhwng y Gymraeg a'r economi.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad oedd unrhyw sylwedd i gyhoeddiad y llywodraeth.

Sunday Politics Wales BBC 1 Wales 11.00

Straeon perthnasol