Damwain: dwy ferch yn yr ysbyty

Mae dwy ferch yn yr ysbyty gyda anafiadau difrifol yn dilyn damwain nos Sadwrn.

Mi ddigwyddodd y ddamwain toc cyn unarddeg ym Mhen-y-bont. Mi adawodd y car y ffordd a tharo'r gylchfan.

Mae'r heddlu yn credu cyn i hyn ddigwydd fod y car Ford Focus coch yn teithio o ardal Porthcawl.

Gofynnir i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101.