Adroddiad fod Arthur Jones wedi ei weld

Arthur Jones
Image caption Does neb wedi clywed gan Arthur Jones ers Mehefin 18

Mae adroddiad fod Arthur Jones o Ddinbych wedi cael ei weld ers iddo fynd ar goll ar ynys Creta.

Dywedodd Aelod Seneddol ei deulu fod rhywun yn honni gweld y dyn 73 oed ar Fehefin 25, ddiwrnod wedi'r dyddiad roedd i fod i hedfan adref.

Yn ôl Chris Ruane, mi fydd y chwilio nawr yn digwydd yn ardal Bae Souda ar yr ynys Roegaidd - ddim yn bell o Chania lle'r oedd Mr Jones yn aros.

Fe yrrodd Mr Jones gerdyn post at ei deulu'n dweud ei fod yn bwriadu mynd i gerdded ond dydyn nhw heb glywed dim ganddo ers hynny.

Does neb wedi ei weld ers Mehefin 19, ddau ddiwrnod ar ôl iddo gyrraedd yr ynys.

Mae ei deulu a swyddogion Heddlu'r Gogledd wedi hedfan yno i helpu gyda'r chwilio.

Straeon perthnasol