Esblygu: Prosiectau newydd y Brifwyl

Wigwams ar y Maes
Image caption Mae'r Eisteddfod yn arbrofi trwy ddefnyddio gwahanol fathau o adeiladau yn hytrach na phabelli ac adeiladau mwy traddodiadol

Mae 'na bwysau o hyd ar yr Eisteddfod Genedlaethol i barhau i ddatblygu ac esblygu. Cymru Fyw sy'n edrych ar rai o'r syniadau newydd fydd yn gweld golau dydd yn Llanelli...

1. Y Pentref Drama

Mae'r Pentref Drama yn ardal newydd sbon ar y Maes eleni, a dyma'r tro cynta' i'r Eisteddfod gynnig ardal yn benodol ar gyfer gweithgareddau drama. Mae'n rhan o brosiect ar y cyd rhwng y Brifwyl a Theatr Genedlaethol Cymru.

Yn ogystal â'r Theatr a Chaffi'r Theatrau, fe fydd y Cwt Drama yn gartre' i nifer o weithgareddau.

Fe fydd 'na amrywiaeth o ddigwyddiadau ar hyd yr wythnos, gan gynnwys darlleniadau anffurfiol, cystadlaethau, perfformiadau a sgyrsiau.

Yn ôl Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, mae'r cyfan yn "ddatblygiad cyffrous iawn".

"Fe fydd yn braf iawn gallu cynnig perfformiadau mewn lleoliad newydd, ac mae'n sicr y bydd hyn yn apelio at y cwmnïau drama a'n hymwelwyr fel ei gilydd." meddai.

"Mae'r Theatr yn lleoliad poblogaidd sydd yn aml dan ei sang. Roedd gan y Theatr Genedlaethol adeilad pwrpasol ar gyfer eu perfformiadau, Rhwydo / Vangst, y llynedd hefyd, a bu modd cynnal perfformiadau eraill yno ar rai adegau o'r wythnos, gan ddangos i ni fod galw am leoliad ychwanegol a newydd i ddrama ar y Maes."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffydd: "Bydd y Cwt Drama yn adnodd theatr gwych ar gyfer y cwmnïau cynhyrchu Cymraeg, artistiaid sydd am ddangos gwaith mewn datblygiad neu brosiectau ar raddfa fechan, neu sgyrsiau ar waith theatr."

2. Lolfa Lên

Datblygiad rhwng yr Eisteddfod a Llenyddiaeth Cymru yw'r Lolfa Lên - wigwam ar y Maes, fydd yn rhoi cyfle i bobl fwynhau llenyddiaeth mewn awyrgylch mwy anffurfiol. Bydd nifer o'r sesiynau'n benodol ar gyfer pobl ifanc, a bydd 'na gyfleoedd i arbrofi gyda syniadau newydd.

Cyfle am sesiynau llai sy'n ymwneud gyda llenyddiaeth, a chyfle i arbrofi gyda syniadau newydd.

"Tan eleni mae'n cynnyrch llenyddol ni, mwy neu lai, wedi'i leoli'n gyfangwbl yn y Babell Lên," esbonia Elfed Roberts. "Ma' hynny'n gweithio'n iawn ond, wrth gwrs, dydy o ddim yn gweithio i bawb. Ma'r Babell Lên yn adeilad mawr - ella'n rhy fawr i ambell gyflwyniad.

"Hefyd os 'da chi'n mynd mewn, ma' disgwyl i chi aros yno nes diwedd y sesiwn. Yn y Lolfa Lên, mi fydd modd picio mewn ac allan fel 'da chi'n dymuno, fydd o ddim cweit mor ffurfiol, yn agosach atoch chi."

3. Tŷ Gwerin

Mae'r Tŷ Gwerin wedi'i ddatblygu'n helaeth ar gyfer y Brifwyl eleni, gydag arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Dyma fydd cartref y diwylliant gwerin ar y Maes, ac mae'n cael ei drefnu mewn partneriaeth gyda mudiadau Trac, Clera a Chymdeithas Ddawns Werin Cymru

Iwrt mawr yw Tŷ Gwerin, gydag ardal berfformio y tu mewn a'r tu allan i'r adeilad, fydd wedi cael ei addurno.

Fe fydd 'na ddigwyddiadau yn ystod y dydd a gyda'r nos - yn eu plith Twmpath teuluol, Stomp Cerdd Dant, sesiynau dawnsio a cherddoriaeth werin, gigs a chyngerdd gwerin i blant.

Yn ôl Elfed Roberts: "Mae'r Eisteddfod wedi bod yn awyddus i ddatblygu yr ochr werinol o bethau ers blynyddoedd, a gan fod y sîn werin yn adfywio ar hyn o bryd a llwyddiant gŵyl Womex y llynedd, wrth gwrs, roedd yr amseru'n berffaith.

"'Da ni wedi bod yn cydweithio 'efo Trac a Clera ers rhai blynyddoedd, ond 'da ni'n mynd gam ymhellach eleni. Mi fydd y gweithgareddau i gyd yn digwydd mewn adeilad gwahanol - sef iwrt - sydd, nid yn unig yn fwy addas, ond yn adeilad mwy ac mae 'na siâp gwahanol iddo".

Ychwanegodd Angharad Jenkins, o Trac: "Wrth greu'r amserlen rydym wedi ceisio adlewyrchu'r hyn sydd yn digwydd yn y byd gwerin yng Nghymru heddiw ac wrth gwrs edrych yn ôl ar y traddodiad hefyd".

Image caption Bydd mwy o bwyslais ar wahaniaethu rhwng gwahanol ardaloedd o'r Maes eleni

4. Newidiadau i'r Maes

Mae'r Eisteddfod wedi penodi Gwyn Eiddior, sy'n gynllunydd theatrig, i gydweithio â nhw i geisio gwneud y Maes yn fwy lliwgar a haws i bobl ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas.

Fe ddechreuodd y gwaith yn Sir Ddinbych y llynedd, ond mae'r prosiect wedi'i ddatblygu'n helaeth ar gyfer eleni, gan ganolbwyntio ar:

  • Y Ganolfan Ymwelwyr
  • Pentref Bwyd
  • Pentref Drama
  • Ardal Y Lle Celf
  • Tŷ Gwerin

Meddai Elfed Roberts: "Da ni wedi cael adborth ers sawl blwyddyn bod y Maes, i'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r Eisteddfod, yn rhy debyg i'w gilydd. Mae'n anodd iddyn nhw ffeindio'u ffordd o gwmpas.

"Mi fydd y Ganolfan Ymwelwyr yn edrych yn wahanol. Mi fydd y Pentre' Drama, y Pentre' Bwyd, y Lolfa Lên a'r Tŷ Gwerin i gyd yn wahanol.

"Roedd eraill yn d'eud ei bod hi'n biti eu bod nhw'n gorfod mynd mewn i adeilad i weld y gweithgareddau. Pobl, efallai, ddim isho mynd mewn i'r Pafiliwn, er enghraifft, yn meddwl na fasa nhw'n gallu dod o 'na yn sydyn. Dyna pam 'da ni wedi datblygu'r llwyfan ar y Maes a Chaffi Maes B.

"O ran y Lle Celf, ma' pobl yn licio mynd yno ond eisiau cael rhywun i esbonio be' oedd yr arlunydd, yr artist neu'r crefftwr yn ceisio'i gyfleu. Dyna pam 'da ni'n rhoi cymaint o bwyslais eleni ar hyfforddi tywyswyr - mi fydda' nhw'n gallu cyfoethogi profiad ymwelwyr â'r Lle Celf.

"Datblygu pethau fel 'na ydy'r nod drwy'r amser - ac esblygu hefyd."