Pobl y Bryn yn cefnogi Status Quo yn Llangollen

Pobl y Bryn Image copyright Pobl y Bryn
Image caption Mae'r band yn edrych ymlaen at gwrdd ag aelodau Status Quo

Yn cloi Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni bydd y grŵp byd enwog Status Quo, sydd wedi gwerthu bron i 120 miliwn o recordiau ers iddyn nhw ffurfio yn 1967.

Ond yn ymddangos ar yr un llwyfan ychydig ynghynt fydd Pobl y Bryn, grŵp sydd wedi ei ffurfio gan bobl o ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint, ac sy'n perfformio yn y Gymraeg.

Cafodd Pobl y Bryn ei ffurfio gan Matthew Deighton a'i wraig Clare.

Fel gitarydd, mae Matthew Deighton wedi perfformio gyda'r grŵp Oasis a'r canwr Paul Weller, ond mae nawr yn gweithio yng Nghymru.

'Yr iaith yn byrlymu'

"Mae mewn cariad â Chymru ers dod yma ar wyliau," meddai Clare Deighton.

"Mae newydd ddechrau dysgu Cymraeg. Mae Pobl y Bryn yn canu pob gair yn Gymraeg ac rydyn ni'n ceisio agor yr iaith Gymraeg i bawb.

"Mae'r iaith yn byrlymu rywsut. Mae'n haws rhoi geiriau i gerddoriaeth yn Gymraeg."

Dywedodd Clare Deighton fod Pobl y Bryn yn canolbwyntio ar "gael hwyl".

"Dyda ni ddim yn cymryd ein hunain yn rhy ddifrifol ond rydyn ni'n ddifrifol am sut mae'r gerddoriaeth yn swnio," meddai.

'Nerfus'

Cafodd enw Pobl y Bryn ei gynnig fel grŵp i gefnogi Status Quo ac mi roedd Rick Parfitt a Francis Rossi o'r band enwog yn cefnogi'r syniad, yn ôl Ms Deighton.

"Dyna sut cawson ni'r gig, sydd yn wych," meddai Ms Deighton.

Mae'n dweud fod y grŵp ychydig yn nerfus: "Byddai'n od peidio bod yn nerfus," cyfaddefodd.

"Ond rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â Status Quo, mi fydd yn hwyl."

Bydd Status Quo, a Phobl y Bryn, yn perfformio o 19:00 ar ddydd Sadwrn, 12 Gorffennaf.

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 8 - 12.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.