Dod o hyd i gorff yn Llanelli

Richard Thomas Chandler Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Richard Thomas Chandler: ar goll ers nos Iau.

Mae'r heddlu, sy'n chwilio am ddyn ar goll, wedi dod o hyd i gorff sydd ddim wedi ei adnabod eto.

Roedd y corff yn ardal Delta Lakes, Llanelli.

Mae'r heddlu wedi bod yn chwilio am Richard Thomas Chandler, 25 oed, yn wreiddiol o Kettering.

Roedd wedi bod yn gweithio yn ardal Trostre ar gontract atgyweirio toeon ers tair wythnos.

Tra'n gweithio yn Llanelli roedd wedi bod yn aros yng nghwesty Miramar ar Heol yr Orsaf yn yr wythnos cyn teithio i Kettering ar y penwythnos.

Cafodd ei weld tua 23:54 nos Iau, Gorffennaf 1, yn cerdded ar hyd Heol y Doc Newydd i gyfeiriad Machynys.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.