Achos John Allen i ddechrau fis Hydref

John Allen yn cyrraedd y llys
Image caption John Allen yn cyrraedd y llys ar gyfer gwrandawiad blaenorol

Mi fydd achos cyn bennaeth cartref plant, sy'n wynebu cyhuddiadau o gam-drin plant, yn dechrau ym mis Hydref.

Mae John Ernest Allen, 72 oed, yn wynebu 39 o gyhuddiadau, gan gynnwys 29 o ymosod yn anweddus rhwng 1968 a 1991.

Mr Allen sefydlodd Bryn Alyn, cwmni oedd yn rhedeg nifer o gartrefi preswyl yn y gogledd.

Mae'n debyg y bydd yr achos yn para am 10 wythnos o flaen barnwr Uchel Lys.

Daw'r cyhuddiadau yn sgil ymchwiliad yr Asiantaeth Droseddu Brydeinig i honiadau hanesyddol o gam-drin o fewn y system ofal plant yng ngogledd Cymru.

Straeon perthnasol