Taro gan drên: Agor a gohirio cwest

Mae enw'r dyn gafodd ei ladd ar ôl cael ei daro gan drên ger Bae Colwyn yr wythnos diwethaf wedi cael ei gyhoeddi.

Roedd Laurence McWade yn 40 oed ac yn byw yn Abergele.

Cafodd cwest i'w farwolaeth ei agor yn Rhuthun ddydd Llun.

Dywedodd John Gittins, crwner Gogledd Ddwyrain a Chanol Gogledd Cymru fod Mr McWade wedi dioddef "anafiadau sylweddol" o ganlyniad i'r digwyddiad ar Fehefin 28.

Bu'n rhaid dibynnu ar olion bysedd er mwyn adnabod Mr McWade.

Doedd ganddo ddim cyfeirid parhaol ond ei gyfeiriad olaf oedd Lon Derw, Abergele.

Bydd cwest llawn yn cael ei gynnal yn Llandudno ym mis Rhagfyr.