Morgannwg yn colli i Surrey

Mae Morgannwg wedi colli'n drwm yn eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Surrey ym Mae Colwyn.

Dim ond 42 rhediad oedd angen ar yr ymwelwyr i gipio'r fuddugoliaeth wedi i Forgannwg golli eu wicedi am 398 yn eu hail fatiad.

Llwyddodd Surrey i gyrraedd y nod gan golli un wiced yn unig, gan ennill o naw wiced.

Gwnaed y difrod ar yr ail ddiwrnod, pan wnaeth agorwr Surrey Zafar Ansari gyrraedd cant am yr ail waith y tymor hwn wrth Surrey sicrhau blaenoriaeth o 168.

Fe wnaeth Ansari gyrraedd 112 cyn cael ei fowlio gan Jim Allenby.

Fe wnaeth ei bartneriaeth gyda Rory Burns (97) gyfrannu 182 i gyfanswm Surrey o 400-5 ar ddiwedd y chwarae yr ail ddiwrnod.

Bu'n rhaid i Forgannwg fodloni ar fatiad cyntaf o 232 ac ail fatiad o 398.

Morgannwg v Surrey

Morgannwg 232 & 398

Surrey 589-8 & 43-1

Surrey (23 pwynt) Morgannwg (2 bwynt)