Vauxhall i greu 550 o swyddi newydd

Vauxhall's Ellesmere Port factory Image copyright Getty Images
Image caption Bydd 300 o'r swyddi newydd yn Ellsmere Port

Dywed cwmni cynhyrchu ceir Vauxhall eu bod yn creu 550 o swyddi newydd mewn dwy ffatri.

Mae un o'r ffatrïoedd yn Ellesmere Port, Sir Caer, eisoes yn cyflogi gweithwyr o Gymru.

Bydd 300 o'r swyddi newydd yn Ellesmere Port a 250 yn Luton.

Y ffatri yn Sir Caer sydd wedi ei dewis gan Vauxhall i gynhyrchu'r genhedlaeth nesa o'r Astra.

Dywed Vauxhall y bydd y swyddi newydd yn cael eu creu fesul cam gan ddechrau flwyddyn nesa.