Milwr yn achub dynes oedd yn cael ei boddi

Yr heddlu ar lan Afon Taf yng nghanol Caerdydd Image copyright Media Wales
Image caption Fe ymosodwyd ar Leanne Ware ar Chwefror 16

Fe redodd milwr i mewn i afon i achub dynes oedd yn cael ei boddi gan ddau ddyn.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y Capten Mark Gold, 43 oed, gyda'i deulu ar lan Afon Taf yng nghanol y ddinas pan welodd Leanne Ware, 31 oed, yn y dŵr.

Fe wnaeth lwyddo i fynd heibio'r ymosodwyr a thynnu ei chorff diymadferth glas o'r afon a gyda chymorth meddyg oedd yn cerdded heibio fe wnaethon nhw lwyddo i achub ei bywyd.

Mae partner Miss Ware, Martin Edwards, 43 oed, o Gaerdydd a'i ffrind Gary Pincott, 55 oed, o'r Barri, yn gwadu ceisio llofruddio.

Clywodd y llys fod Capten Gold, a fu'n aelod o Adran Feddygol y Fyddin am 20 mlynedd, yn cerdded gyda'i wraig a'i blant ar Chwefror 16 pan welodd ddau ddyn yn gwthio corff i'r afon a dal ei phen o dan y dŵr.

'Ymosod arni'

Eglurodd John Philpotts, ar ran yr erlyniad bod y Capten Gold yn cerdded ar hyd pont yr afon pan welodd Miss Ware yn gorwedd ar lan yr afon gyda'r ddau ddiffynydd yn ymosod arni.

Dywedodd iddo droi i ffwrdd er mwyn symud ei deulu a ffonio 999.

"Pan wnaeth o ddychwelyd gwelodd y ddau yn gwthio Miss Ware i'r afon, Mr Edwards yn ei rowlio hi gyda'i draed a Mr Pincott yn ei gwthio gyda'i ddwylo," meddai wrth y rheithgor.

"Mae'n ymddangos nad oedd Miss Ware yn gwbl ymwybodol wrth iddi rowlio i mewn i Afon Taf ac yn syth aeth o dan y dŵr o'r golwg."

Rhedodd Capten Gold i lawr a mewn i'r dŵr rhewllyd i chwilio amdani pan gafodd ei daro yn ei wyneb gan Mr Edwards.

'Wyneb o dan dŵr'

Yn y llys fe ddywedodd Mr Philpotts bod Capten Gold wedi cyrraedd Miss Ware a bod hi'n ymddangos bod Mr Edwards yn dal ei hwyneb o dan y dŵr.

Clywodd y rheithgor bod Miss Ware yn las a doedd hi ddim yn ymateb a bod y Capten Gold a'r meddyg teulu Hannah Hetherington, a oedd yn loncian ar y pryd, yn credu ei bod wedi marw.

Fe wnaeth y ddau roi triniaeth achub bywyd iddi hyd nes i'r parafeddygon gyrraedd.

Clywodd y llys bod Mr Edwards wedi dweud wrth yr heddlu, "Pam wnes i ei thynnu yn ôl os oeddwn i'n ei llofruddio?"

Ac mewn cyfweliad gyda'r heddlu dywedodd Mr Pincott wrth blismones: "Hei cariad, roeddwn i ar y bont pan oedd Martin a Leanne oddi tano yn dadlau.

"Dwi ddim wedi gwneud dim byd."

Mae'r achos yn parhau.