Corff Richard Chandler wedi ei ddarganfod yn Llanelli

Richard Chandler
Image caption Aeth Richard Chandler ar goll ar Orffennaf 1

Mae'r heddlu wedi adnabod corff dyn gafodd ei ddarganfod yn ardal Delta Lakes, Llanelli ddydd Llun.

Daeth cadarnhad mai corff Richard Thomas Chandler, 25 ac o Kettering, gafodd ei ddarganfod.

Roedd Mr Chandler wedi bod yn gweithio yn ardal Trostre, ond doedd neb wedi ei weld ers nos Iau, Gorffennaf 1.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn "fab, brawd, ŵyr, tad a phartner annwyl".

"Roedd pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu a bydd colled mawr ar ei ôl. Hoffwn ni fel teulu ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod yr amser yma."

Straeon perthnasol