Streic: 912 o ysgolion ar gau

Gweithwyr Cyngor Sir Ynys Môn ar streic fore Iau
Image caption Gweithwyr Cyngor Sir Ynys Môn ar streic fore Iau

Mae streic ymysg 70,000 o weithwyr sector gyhoeddus wedi effeithio ar ysgolion, llysoedd, canolfannau gwaith a gwasanaethau cynghorau.

Honnodd arweinwyr undebau fod rhewi cyflogau yn golygu na allai pobl ar gyflog isel ymdopi.

Ond dywedodd cynghorau yng Nghymru mai codiad cyflog o 1% i'r rhan fwyaf o weithwyr a 4% i'r rhai ar y cyflog isaf oedd y gorau y gallen nhw ei gynnig.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, mae rhewi cyflogau'n y sector cyhoeddus yn amddiffyn swyddi, gwasanaethau a'r pwrs cenedlaethol.

Roedd 912 (56%) o ysgolion ar gau yng Nghymru ac roedd ralïau yng Nghaerdydd, Abertawe, Bangor, Caerfyrddin a Merthyr Tudful.

Roedd y streic y golygu bod:

  • y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru ynghau gan fod yr NUT yn rhan o'r streic;
  • nifer o ganolfannau hamdden, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol ynghau;
  • newidiadau i amserlenni casglu gwastraff;
  • holl safleoedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ynghau heblaw am yr Amgueddfa Lleng Rufeinig yng Nghaerllion;
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn cynnig "gwasanaeth cyfyngedig yn yr Ystafelloedd Darllen".

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, wedi beirniadu'r ffaith bod Twnel Trebiwt ac Argae Bae Caerdydd ynghau.

Yn ôl Mr Davies: "Rydym wedi gwybod am y streiciau am beth amser ac eto mae'r cyngor wedi methu â rhwystro anhrefn ar ffyrdd y brifddinas."

Yn y Cynulliad doedd dim pwyllgorau ddydd Iau.

Image caption Roedd tua 200 mewn rali yn Abertawe
Image caption Piced y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fore Iau
Image caption Cynhaliwyd gorymdaith yn Wrecsam

PWY OEDD AR STREIC?

Ym Mhrydain roedd cannoedd o filoedd ar streic, y nifer fwya ers i'r Glymblaid ddod i rym yn San Steffan ym mis Mai 2010.

Ymysg y gweithwyr sy'n gweithredu roedd:

  • Staff cyngor, sydd wedi gwrthod cynnig o godiad cyflog o 1% i'r rhan fwyaf;
  • Athrawon, sy'n gweithredu dros amodau cyflog, pensiynau a phwysau gwaith;
  • Gweision sifil, yn cynnwys y Swyddfa Basport, canolfannau gwaith a staff llysoedd, sydd wedi gwrthod codiad cyflog o 1%;
  • Diffoddwyr tân, sydd ynghanol cyfnod hir o anghydfod dros bensiynau ac oedran ymddeol.

Mae'r TUC wedi honni bod rhewi cyflogau a chodiadau cyflog islaw chwyddiant wedi golygu bod gweithwyr sector cyhoeddus £2,245 yn dlotach ar gyfartaledd ers i'r Glymblaid ddod i rym yn 2010.

Image caption Mae'r streic wedi effeithio ar gasglu sbwriel
Image copyright PA
Image caption Roedd diffoddwyr yn cynnal eu streic ddiweddara' ddydd Iau

Fe ddywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau lleol, fod ganddyn nhw "gydymdeimlad llwyr" â rhwystredigaeth yr undebau - ond na allai cynghorau lleol fforddio gwella'r cynnig presennol.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fore Iau: "Fe fydd gweinidogion yn ymgymryd â dyletswyddau llywodraethol ac yn delio gydag unrhyw faterion wnaiff godi yn ystod y dydd, ond fyddan nhw ddim yn croesi llinellau piced."

Roedd manylion ysgolion ar gau ar restr o gysylltiadau i wefannau holl gynghorau Cymru ar BBC Cymru Fyw.

Straeon perthnasol