Tân wedi difetha becws yn Rhuthun

Bakery fire Image copyright Dee News
Image caption Roedd rhaid i ddiffoddwyr dorri ffenestri'r adeilad wrth ddelio gyda'r tân

Mae tân wedi difetha becws yn Rhuthun fore Iau.

Cafodd diffoddwyr o Rhuthun a Dinbych eu galw i fecws Chatwin's yn y dref am tua 7:00yb.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân mai oergell oedd yn gyfrifol am ddechrau'r tân.

Dywedodd tystion eu bod wedi sylwi ar yr arogl ac yn gallu gweld mwg trwchus yn dod o do y becws, sy'n cynnwys tŷ bwyta a siop goffi.

Image copyright Dee News
Image caption Mae tŷ bwyta a siop goffi yn yr adeilad
Image copyright Dee News
Image caption Cafodd diffoddwyr o Ruthun a Dinbych eu galw i fecws Chatwin's am tua 7:00yb.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.