Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Bedwyr Williams
Image caption Ymatebodd Bedwyr Williams i gwestiwn am greu celf yn Gymraeg

Mae Rhys Mwyn wedi'i lorio - a dwi'n amau nad ydi hynny ddim yn rhywbeth sy'n digwydd yn aml.

Gwrando ar yr athrylith Bedwyr Williams yn Oriel Mostyn oedd o, fel y dywed wrthym yn yr Herald, a'r hyn roddodd ergyd galed iddo oedd clywed yr artist aml-gyfrwng, lliwgar, diddorol, doniol, heriol a chysyniadol hwn yn ymateb i gwestiwn am greu celf yn Gymraeg.

Dyma ddywedodd Bedwyr: 'Mae'r Saesneg fel car Ferarri lle mae rhywun yn gallu gyrru, mae'r Gymraeg fel car o dras gyda rhywun yn y sedd ochr yn dweud wrthoch chi sut i yrru'.

Ac mae Rhys yn holi: sut fath o gymdeithas Gymraeg ydyn ni wedi'i chreu lle mae artist fel Bedwyr Williams yn teimlo nad oes modd iddo greu drwy gyfrwng y Gymraeg?

A Bedwyr yn aelod o Orsedd y Beirdd, beth yn union yw gwerth hynny os yw'r artist yn methu creu yn Gymraeg?

Dysgu oddi wrth Estonia

Image copyright Nia Medi
Image caption Mae miliwn o bobl yn siarad Estoneg o'i gymharu â 300,00 sy'n siarad Cymraeg

Falle gallen ni ddysgu gwersi oddi wrth Estonia.

Mae'r newyddiadurwraig Nia Medi newydd fod yn y wlad, sydd â phoblogaeth o bron i ddwy filiwn yn llai na Chymru, ond sydd llawn mor angerddol am ei gwreiddiau, iaith, hanes a diwylliant, gyda miliwn o bobl yn siarad Estoneg o'i gymharu â 300,00 sy'n siarad Cymraeg.

Er bod llawer yn debyg, tra bod pobl ifanc Cymru'n heidio i'r dinasoedd i chwilio am waith, mae'r sefyllfa yn Estonia'n wahanol iawn, gyda miloedd o bobl ifanc bellach yn symud nôl i'r wlad am fod y Llywodraeth wedi sicrhau bod gan 70% o'r ardaloedd gwledig wasanaeth diwifr rhad ac am ddim, felly mae modd iddyn nhw gysylltu â'u swyddfeydd yn y ddinas.

Yn wir, meddai ar wefan Cymru Fyw, tra'n cerdded drwy fforest Parc Cenedlaethol Laheema, ro'n i hefyd yn gallu checio'n e-byst a chyfathrebu gyda fy nghyflogwyr i nôl adre.

Mewn nifer o ardaloedd ar draws Cymru, byddai'n amhosib hyd yn oed gwneud galwad ffôn symudol.

Pethau wedi dechrau newid

Image caption Alun Davies yw Aelod Cynulliad Blaenau Gwent

Go brin fod Alun Davies wedi mwynhau cyfathrebu gyda'i gyflogwr yn gynharach yr wythnos hon, ac ar ei flog dywed Vaughan Roderick na welodd Carwyn Jones erioed mor grac ac oedd ddydd Mercher.

Nid crac yn yr ystyr cynddeiriog - yn hytrach roedd yn arddangos y dicter oeraidd hwnnw sy'n awgrymu dirmyg llwyr.

A does dim rhyfedd, meddai Vaughan: am gyfnod maith roedd Carwyn fel pe bai e'n gwisgo cot o 'Teflon' wleidyddol.

Beth bynnag y trafferthion a sgandalau, doedd fawr ddim yn sticio gyda'r arolygon yn awgrymu bod Llafur yn bell ar y blaen i bawb arall wrth i etholiadau agosáu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pethau wedi dechrau newid. Mae'n bell o fod yn drychinebus ond dydy pethau ddim yn gysurus chwaith.

Mae ymosodiadau ar record Llywodraeth Cymru wedi gadael ambell i farc: yn enwedig efallai'r rheiny gan Ann Clwyd.

Roedd 'na ambell i smotyn o rwd ar y sosban a nawr dyma Alun i roi cythraul o dolc ynddi.

Cwestiwn heb ateb iddo

Mae'r dadleuon hyn yn ymddangos yn gwbl bitw wrth ochr yr anghydfod sy'n cael sylw gan Arthur Thomas yn y Cymro, sy'n dyfynnu Harry Patch, y gŵr olaf a fu'n filwr yn y ffosydd ac a fu farw yn 2009 yn 111 oed.

Yn ei hunangofiant, holodd: "Pam ddylai'r Llywodraeth Brydeinig fy ngalw i'r fyddin a mynd â mi i faes y gad i ladd rhywun na fu imi ei adnabod erioed ac na allwn siarad ei iaith?

"Pa synnwyr sydd yn hynny? Ar ddiwedd y rhyfel fe gytunwyd ar heddwch drwy drafod o gwmpas bwrdd felly pam na allent fod wedi gwneud hynny ar y dechrau ac arbed miliynau o ddynion?"

Dyna i chi gwestiwn nad oes dim ateb iddo.

Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.