Guinness yn noddi'r Pro12

Richard Fussell (Gweilch) yn ceisio taclo Taulupe Faletau (Dreigiau) Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Richard Fussell (Gweilch) yn ceisio taclo Taulupe Faletau (Dreigiau)

Guinness yw noddwr newydd cynghrair y Pro12 ar gyfer tymor 2014-15 yn lle RaboDirect.

Fe ddaeth y newyddion wrth i drefn gemau'r gynghrair gael ei chyhoeddi.

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Ulster ar benwythnos cynta'r tymor ym mis Medi, Dreigiau Casnewydd Gwent yn teithio i Connacht, y Gweilch gartref yn erbyn Treviso a Gleision Caerdydd yn mynd i Zebre.

Fe fydd cyfnod darbi'r rhanbarthau dros y 'Dolig - cyfres o gemau poblogaidd, fel arfer - yn dechrau gyda gornest rhwng y Gleision a'r Scarlets ar 19/20/21 Rhagfyr.

Yna fe fydd y Dreigiau yn teithio i Gaerdydd a'r Gweilch yn croesawu'r Scarlets ar 26/27/28 Rhagfyr.

Daw'r gemau darbi i ben ar benwythnos 2/3/4 Ionawr 2015 wrth i'r Dreigiau groesawu'r Gleision, a'r Scarlets yn teithio i herio'r Gweilch.