Safonau iaith 'angen mwy o hyblygrwydd'

Edwards

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd yn galw am fwy o hyblygrwydd yn y ffordd mae'r Safonau Iaith yn cael eu gweithredu.

Yn ôl Dyfed Edwards, mae angen rhoi ystyriaeth i wahanol sefyllfaoedd o ran y Gymraeg mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y rheolau yn cael eu dilyn, wedi iddyn nhw ddod i rym yn 2015.

Mewn ymateb i sylwadau Mr Edwards, dywedodd swyddfa'r comisiynydd ei bod wedi galw ar y llywodraeth i sicrhau y bydd y safonau yn arwain at wella'r sefyllfa ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

'Angen bod yn ystwyth'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gwyliwch y cyfweliad llawn gyda Alun Rhys yn gofyn y cwestiynau

Mae Dyfed Edwards, sy'n llefarydd iaith i'r WLGA yn ogystal â bod yn arweinydd Cyngor Gwynedd, yn credu ei bod hi'n bwysig "cydnabod bod awdurdodau yn amrywio o ran proffil ieithyddol".

Ychwanegodd: "Dwi'n credu ein bod ni fel cymdeithas llywodraeth leol wedi pleidleisio gyda'r comisiynydd a'r Prif Weinidog sydd gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg, bod angen i ni fod yn ystwyth os liciwch chi o fewn y fframwaith.

"Bod blaenoriaethau yn sir Fynwy yn mynd i fod yn wahanol i flaenoriaethau Sir Fôn o bosibl, ac os ydy Sir Fynwy yn eu cynllunio nhw yn gallu sicrhau bod 'na gynnydd, er enghraifft yn addysg Gymraeg, cynnydd yn y niferoedd sy'n dysgu Gymraeg, wel, dyna'r newyddion da sydd eisiau.

"Ac o reidrwydd does dim rhaid i ni o bosib cael gormod o boen ynghylch ydy di pob un ffurflen wan jac ar gael yn ddwyieithog.

"Dw i'n credu rhaid i ni fod yn ofalus bod ni'n hoelio'r sylwi ar yr hyn ni'n ceisio cyflawni, sef cynnal ac hyrwyddo'r Gymraeg a chreu mwy o siaradwyr Cymraeg a chreu mwy o ddefnydd o'r Gymraeg."

'Gwelliant cyffredinol'

Fe ofynnodd BBC Cymru am ymateb Comisiynydd y Gymraeg i sylwadau Mr Edwards.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan bod Ms Huws yn credu "y dylid gwneud pob gweithgaredd o fewn y safonau cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithredu, cadw cofnodion a hybu yn benodol gymwys, lle bo'r gweithgareddau hynny yn cael eu darparu".

Fe gyfeiriodd y llefarydd at yr hyn roedd Ms Huws wedi ei ddweud yn ei nodyn cyngor i'r llywodraeth, sef: "Dylai safonau a'r diffiniadau cysylltiedig ehangu ac nid cyfyngu ar allu presennol personau i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Mae angen gallu rhoi sicrwydd y bydd y safonau hyn yn arwain at welliant cyffredinol dros amser i ddefnyddwyr."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n cytuno gyda'r hyn mae Mr Edwards yn ei ddweud.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn cytuno'n llwyr â Dyfed Edwards mai ffocws y Safonau newydd yw gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pobl ledled Cymru a chreu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

"Bydd y Prif Weinidog yn ymateb i adroddiadau ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg ac egluro amserlen y safonau wythnos nesaf."

Ond anghytuno gyda sylwadau'r cynghorydd mae Cymdeithas yr Iaith. Dywedodd Jamie Bevan, is-gadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae 'na berygl yn yr hyn ma fe'n ddweud - 'sdim angen dewis rhwng statws a defnydd yr iaith - mae'n ddadl hen ffasiwn. Ydy e'n byw yn y chwedegau?

"Mae statws a defnydd iaith yn mynd law yn llaw. Diffyg polisïau recriwtio cadarn sydd wrth wraidd nifer o'r problemau mae'r cyrff yn eu hwynebu o ran methu darparu gwasanaeth yn Gymraeg, yn enwedig yn rhai o siroedd Gwent. Yn anffodus, 'sdim byd yn y safonau a fydd yn sicrhau bod cynghorau yn mynd i wella ar hynny.

Ychwanegodd: "Yr unig le y mae angen hyblygrwydd yn y dyletswyddau newydd yw er mwyn sicrhau bod polisïau cyrff sy'n gweinyddu'n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu hamddiffyn, yn ogystal â chynnig ffyrdd i'r rhai sydd am fabwysiadu'r un arfer da, fel cyngor sir Gâr."

Y safonau - y daith hyd yn hyn

Rhagfyr 2010: Cynulliad yn pasio'r Mesur Iaith, sy'n cynnwys ymrwymiad i sefydlu Comisiynydd y Gymraeg fydd â chyfrifoldeb dros lunio safonau iaith a sicrhau bod cyrff yn dilyn y rheolau.

Hydref 2011: Penodi Meri Huws yn Gomisiynydd y Gymraeg.

Mai 2012: Meri Huws yn dechrau ymgynghoriad anstatudol ar y safonau iaith.

Tachwedd 2012: Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi'r safonau iaith arfaethedig.

Chwefror 2013: Y Gweinidog â Chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews yn gwrthod y safonau gafodd eu cynnig gan Meri Huws

Mai 2013: Mr Andrews yn cyhoeddi'r amserlen ar gyfer llunio, craffu a gweithredu'r safonau.

Mehefin 2013: Leighton Andrews yn cael ei orfodi i ymddiswyddo. Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cymryd cyfrifoldeb dros yr iaith.

Ionawr 2014: Mr Jones yn cyhoeddi safonau iaith drafft y llywodraeth. Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad safonau rhwng Ionawr ac Ebrill.

Mehefin 2014: Ms Huws yn cyhoeddi canlyniadau'r ymchwiliad safonau. Yn trosglwyddo'r gwaith i Lywodraeth Cymru.

Nawr: Prif Weinidog yn ystyried yr adroddiad ymchwiliad safonau. Mae disgwyl cyhoeddiad ar y ffordd ymlaen yn y man.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.