Ras i gofio Gary Speed

Gary Speed Image copyright Getty Images
Image caption Bydd y ras 10k yn gyfle i gofio un o arwyr pel-droed Cymru.

Ar ddiwrnod ffeinal Cwpan y Byd, bydd cannoedd o redwyr yn cystadlu rhan mewn ras 10k, i er cof am y Cymro wnaeth geisio arwain Cymru i Gwpan y Byd.

Bellach mae'n agos i dair blynedd ers marwolaeth Gary Speed, ac mae'r teulu wedi sefydlu elusen yn ei enw.

Bydd y ras yn cychwyn a gorffen yng nghlwb pêl droed Bae Colwyn. Mae'r cwrs yn mynd a'r rhedwyr ar hyd arfordir Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos. Mae'r trefnwyr wedi gofyn i'r cystadleuwyr wisgo crys eu hoff dîm.

Dylanwad mawr

Dywedodd Roger Speed, tad Gary, ei fod yn bwysig iddo barhau â gwaith elusennol er cof am ei fab: "Cafodd Gary ddylanwad mawr ar lawer o bobl ym mhobman.

"Roedd Gary yn barod i helpu unrhyw un. Felly, roeddem yn credu y gallem wneud rhywbeth fel hyn a chael rhywfaint o arian i mewn a gallwn helpu pobl. Roedd e'n arfer ysgrifennu colofn reolaidd ar gyfer papur newydd lleol ac fe roddodd yr holl arian i ysbyty cymunedol Glannau Dyfrdwy.

"Yn barod 'dwi wedi gwneud cyflwyniad i un tîm pêl-droed, ac mae un arall i'w wneud."

Bu Roger Speed yn egluro sut mae ei deulu yn ymdopi â'r golled. "Mae'n anodd ac mae amser wedi hedfan. Mae pobl wedi bod mor dda, mae gennym griw ffantastig o'n cwmpas," meddai.

Straeon perthnasol