Dyddiad cau hawlio costau gofal yn nesáu

Helpu'r henoed
Image caption Fe wnaeth llawer o bobl hŷn werthu eu cartrefi ar ôl clywed nad oedden nhw'n cymwys am ofal am ddim

Mae miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn wynebu'r risg o golli'r cyfle i hawlio costau cartrefi gofal os nad ydyn nhw'n gwneud cais cyn diwedd y mis.

Mae'r elusen Age Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio gwneud digon i hyrwyddo'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Iechyd Gofal Parhaol y Gwasanaeth Iechyd - sef yr 31ain o Orffennaf.

Dros y ddeng mlynedd diwethaf mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi ad-dalu £50 miliwn i bobl sydd wedi cael eu gorfodi i dalu ffioedd cartrefi gofal.

Y gwasanaeth iechyd sy'n gyfrifol am dalu costau'r bobl sy'n derbyn gofal arbennig oherwydd gofynion eu hiechyd. Dyw sefyllfa ariannol yr unigolyn ddim yn cael ei ystyried yn berthnasol i'r broses o'i asesu ar gyfer iechyd gofal parhaol.

Mae nifer fawr o bobl wedi colli'r cyfle i hawlio'r costau gan nad oedden nhw'n ymwybodol bod yr arian ar gael neu oherwydd cafodd eu cais gwreiddiol ei wrthod gan y gwasanaeth iechyd.

Mae gan y bobl dalodd am ofal nyrsio rhwng Ebrill 1, 2003 a Gorffennaf 31, 2013 tan ddiwedd y mis hwn i apelio.

Mewn rhai achosion, mae byrddau iechyd yn delio a cheisiadau yn uniongyrchol.

Mae Bwrdd Iechyd Addysg Powys yn delio a cheisiadau sy'n apelio eu hasesiad cyntaf neu geisiadau newydd gan bobl nad oedd yn ymwybodol o'r cynllun yn y lle cyntaf.

Hyd yn hyn mae 83% o'r 1,375 o achosion gafodd eu gweinyddu gan gynllun Powys wedi llwyddo i adennill naill ai harian i gyd neu ran ohono.

Llwyddodd Richard Morgan o Frynsiencyn, Ynys Môn, i adennill tua £45,000 o bunnau ar ôl i'w fam - Helen Marian Morgan - cael ei hasesu ar gam ar gyfer Gofal Iechyd Parhaol.

Roedd Mrs Morgan yn dioddef o ddementia ar y pryd ac roedd ganddi nifer o broblemau iechyd eraill o ganlyniad i hynny. Ar ôl cael ei hasesu'n anghymwys ar gyfer gofal iechyd parhaol fe ddefnyddiodd Mr Morgan holl arbedion ariannol ei rieni i dalu ffioedd y costau nyrsio.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2010, fe welodd ei chwaer-yng-nghyfraith hysbyseb mewn papur newydd yn son am gyfle i hawlio'r ffioedd gofal nyrsio yn ôl - felly fe gysylltodd Mr Morgan â chyfreithiwr er mwyn ymchwilio i'w achos.

System fwy clir

Ond fe ddywedodd Mr Morgan roedd ei rieni yn haeddu cael rhywbeth yn ôl.

"Mae'n anodd achos rydych chi'n talu trethi ac roedd fy rhieni wedi gweithio trwy eu hoes ac fe wnaethon nhw gyfrannu at y llywodraeth a chyfrannu i gymdeithas - popeth. Ond mae'n od bod hyn yn digwydd yn y diwedd. Byddai'n well peidio talu yn y lle cyntaf.

"Ar ôl gweithio'n galed trwy eu bywydau mae'n neis eu bod nhw'n cael rhywbeth nôl."

Image caption Mae pobl sy'n gorfod rhoi aelodau o'u teulu mewn cartrefi yn dioddef ddwywaith, yn ôl Mr Roberts

Fe ddywedodd Iwan Rhys Roberts o Age Cymru:

"Pryder ni ydi'r bobl sy'n gorfod talu'r ffioedd yma yn ddianghenraid - pobl sy'n gorfod gosod eu hanwylion mewn cartrefi gofal - nhw ydi'r bobl sy'n dioddef ar ddiwedd y dydd.

"Dyna pam mae angen system gliriach i sicrhau bod gan bobl sydd angen y wybodaeth hanfodol bwysig yma - bod o ar gael iddyn nhw ar adeg anodd iawn o'u bywydau nhw."

Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod nhw wedi bod yn gweithio i hyrwyddo'r dyddiad cau ac roedden nhw wedi disgwyl tua thair mil o geisiadau.

Ond ers cyhoeddi'r dyddiad cau dim ond 29 sydd wedi dod i law hyd yn hyn.