Aber a Bangor allan o Ewrop

Aber
Image caption Bu Aberystwyth yn siomedig i fod wedi colli 9-0 dros y ddwy gymal

Mae Bangor ac Aberystwyth wedi colli'n drwm yn ail gymal eu gemau Ewropeaidd.

Cafodd Bangor grasfa o bedair gôl i ddim yn Nantporth, tra'r aeth Aber un yn waeth gan adael pump i fewn yn erbyn Dinas Derry.

Roedd Bangor eisoes bedair ar ei hôl hi ers y cymal cyntaf ac yn gwybod bod angen rhyw fath o wyrth i'w gweld yn cyrraedd yr ail rownd.

Fe ddechreuon nhw ddigon disglair gyda Damien Allen a Sion Edwards yn dod yn agos, ond doedden nhw ddim yn gallu darganfod cefn y rhwyd.

Daeth gôl gyntaf Stjarnan o'r noson gyda 53 munud ar y cloc, diolch i daran o ergyd gan Martin Rauschenberg o 25 llath.

Cafodd Arnar Bjorgvinsson ddwy ac Atli Johannsson un er mwyn ei gwneud hi'n noson ddiflas i'r Dinasyddion, wrth iddyn nhw golli 8-0 dros y ddwy gymal.

Fe gafodd Rory Patterson dair gôl yn yr ail hanner i Derry yn erbyn Aber.

Barry McNamee a Michael Duffy sgoriodd y ddwy arall.

Straeon perthnasol