Gwion Edwards yn arwyddo i Crawley

Gwion Edwards Image copyright Empics

Mae'r pêl-droediwr ifanc Gwion Edwards wedi arwyddo i Crawley, sy'n chwarae yn yr Adran Gyntaf.

Fe sgoriodd y chwaraewr canol cae 21 oed ddwywaith mewn chwe ymddangosiad iddyn nhw tra ar fenthyg y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Edwards, sydd wedi chwarae i dîm dan 21 Cymru, wedi bod ar lyfrau Abertawe, ond ni lwyddodd i gael lle yn y tîm cyntaf.

Dywedodd rheolwr Crawley, John Gregory: "Ry'n ni'n gwybod be all Gwion ei roi i ni, ond mae lot mwy i ddod ohono fe."

"Mae mewn oed perffaith i ddatblygu ei gem a symud ei yrfa ymlaen ac rwy'n siŵr y bydd ein cefnogwyr mor blês a minnau i'w gael dros y ddwy flynedd nesaf."