Morgannwg yn curo Surrey o 4 rhediad

Morgannwg Image copyright Getty Images

Mae Morgannwg wedi curo Surrey o bedwar rhediad yn y gystadleuaeth 20 pelawd.

Morgannwg fatiodd gyntaf yn yr Oval nos Wener, a chyrhaeddodd Jacques Rudolph ac Jim Allenby 20 cyn i Allenby gael ei ddal gan Ansari oddi ar fowlio Matt Dunn.

Fe wnaeth Rudolph barhau i sgorio yn gryf gyda Mark Wallace a Stewart Walters gan gyrraedd 75 heb fod allan erbyn diwedd y batiad.

Daeth cymorth i Forgannwg hefyd gan fatio Chris Cooke a sgoriodd 43 cyn cael ei ddal oddi ar fowlio Dunn eto.

192 am 4 oedd eu cyfanswm ar ddiwedd yr 20 pelawd, gyda Gareth Batty yn cymryd y ddwy wiced arall i Surrey.

Surrey enillodd yn hawdd wrth i'r ddau dîm wynebu eu gilydd ym Mae Colwyn yn gynharach yn yr wythnos, ond doedden nhw methu ac ail-adrodd y gamp yn Llundain.

Dechreuodd Steven Davies yn dda i'r tîm cartref cyn iddo gael ei ddal oddi ar fowlio Michael Hogan am 27.

Daeth cyn-fatiwr Lloegr, Kevin Pietersen i'r cae a sgorio pedwar rhediad oddi ar y bel gyntaf.

Llwyddodd i chwarae yn dda gyda Jason Roy, cyn i Andrew Salter gymryd ei wiced am 20.

Cyrhaeddodd Roy 60 cyn i Forgannwg gipio ei wiced hollbwysig, ac er i Azhar Mahmood sgorio 36 heb fod allan, nid oedd yn gallu cipio'r fuddugoliaeth.

Cyfanswm Surrey oedd 188 am 4.