Diswyddo Alun Davies: Galw am ymchwiliad

Andrew RT Davies Image copyright PA
Image caption Yn ôl Andrew RT Davies mae angen sicrhau nad oes camddefnydd pellach o wybodaeth yn digwydd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi galw am ymchwiliad annibynnol ar ôl i Alun Davies gael ei ddiswyddo o'r Cabinet.

Bu'n rhaid i'r gweinidog Adnoddau Dynol adael ei swydd ar ôl iddo geisio dod o hyd i wybodaeth ariannol ynglŷn â nifer o Aelodau Cynulliad.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr "Rwy'n meddwl bod angen ymchwiliad annibynnol, wedi ei gadeirio gan farnwr annibynnol, er mwyn edrych ar hyn a gwneud yn siŵr y gallwn fod yn hyderus nad oes camddefnydd ehangach o'r system, ac rwy'n gobeithio na fydd e'n profi hynny."

Cafodd Alun Davies ei ddiswyddo ar ôl iddo dorri'r Cod Gweinidogol am yr ail waith.

Fe ofynnodd am fanylion taliadau cymhorthdal rhai o'i wrthwynebwyr gwleidyddol yn fuan ar ôl iddo lobio yn amhriodol ynglŷn ag adeiladau trac rasio yn ei etholaeth ym Mlaenau Gwent.

Diffyg Crebwyll

Hawliodd Andrew RT Davies fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dangos diffyg crebwyll ynglŷn â'r mater ac fe ddylai Mr Jones fod wedi diswyddo'r Gweinidog ar ôl iddo dorri'r cod gweinidogol y tro cyntaf.

Dywedodd ei fod yn croesawu'r ymddiheuriad ddaeth gan yr Aelod Llafur "Ond fe gymerodd hi 24 awr a gorchymyn gan y Prif Weinidog."

Mae Alun Davies wedi gwrthod cais gan BBC Cymru am gyfweliad ynglŷn â'r mater.

Straeon perthnasol