Amgueddfa athronydd yn dathlu 80 mlynedd

Y Cwm Image copyright Mal Hughes
Image caption Y Cwm, cartref ac amgueddfa Syr Henry Jones (Llun: Mal Hughes)

Mae cefnogwyr Amgueddfa Syr Henry Jones yn Llangernyw wedi cynnal dathliadau i nodi 80 mlynedd ers i'r amgueddfa agor yn y pentref.

Roedd Syr Henry ymhlith athronwyr mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, ac fe agorwyd yr amgueddfa yng nghartref ei blentyndod er mwyn cofnodi ei waith.

Roedd Syr Henry yn gyfaill agos i'r Prif Weinidog David Lloyd George, ac fe ddaeth Lloyd George i'r pentref yn 1934 er mwyn agor yr amgueddfa.

Fe ddaeth torf enfawr i weld y cyn Brif Weinidog, gan gynnwys John Hughes sydd yn 90 oed ac yn un o'r ymddiriedolwyr presennol.

Dywedodd Mr Hughes: "Cofiaf y diwrnod yn glir, gwelais Lloyd George yn cerdded i fyny'r llwybr tuag at yr Amgueddfa. Tra roedd Lloyd George yn annerch y gynulleidfa, daeth telegram iddo, ac wrth ei ddarllen daeth gwên ar ei wyneb.

Image copyright Mal Hughes
Image caption Roedd dathliadau yn yr amgueddfa dros y penwythnos (Llun: Mal Hughes)
Image copyright Mal Hughes
Image caption Gor-nai Lloyd George, Phillip George oedd un o'r rhai oedd yn ail-agor Y Cwm (Llun: Mal Hughes)

"Gwaeddodd rhywun 'Share the joke LG'. Dywedai'r telegram for Lloyd George wedi ennill y wobr gyntaf a'r gwpan arian am ddysgl o eirin mair (gwsberis) mewn sioe yng Nghaint.

"Roedd y gynulleidfa yn chwerthin a pharhaodd Lloyd George i'w diddanu am ugain munud arall."

Ysgolhaig ac ymgyrchydd

Cafodd yr amgueddfa ei "ail agor" yn swyddogol gan gor-nai Lloyd George, Phillip George o Gricieth. Roedd y dathliadau yn cynnwys arddangosfa arbennig, cerddoriaeth a gweithgareddau i blant.

Roedd Syr Henry yn fab i'r crydd yn Llangernyw, ac fe astudiodd wrth iddo helpu ei dad yn ei weithdy.

Roedd yn ysgolhaig blaenllaw ac yn Athro Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow. Bu'n ymgyrchydd dylanwadol hefyd yn yr ymdrech i wella safon addysg yng Nghymru.

Bu farw yn 1922 ac fe agorwyd yr amgueddfa yn ei hen gartref, Y Cwm, yn 1934.