Punt Caerdydd gam yn nes?

Michelle Davis
Image caption Mae Michelle Davis yn dweud bod pobl eisiau gwybod i le mae eu pres yn mynd

Mae cymdeithas dai yn cychwyn gwaith ymchwil i weld a fyddai'n hyfyw i gael pres lleol yng Nghaerdydd.

Bydd Michelle Davis, sydd yn gweithio i Cadwyn, yn siarad gyda nifer yn y maes - gan gynnwys y grŵp sydd y tu ôl i Bunt Bryste a Totnes - i weld a fyddai'r cynllun yn gweithio ym mhrifddinas Cymru ai peidio.

Mae Ms Davis, sydd hefyd yn berchennog siop, yn dweud bod 'na gefnogaeth ar gyfer Punt Caerdydd. Roedd hi wedi crybwyll y syniad yn ei blog y llynedd.

"Roedd 'na ddiddordeb yn gyflym iawn, llawer o negeseuon o gefnogaeth, aelodau o Gyngor Caerdydd yn cysylltu yn dweud bod gyda nhw ddiddordeb. Felly mi oedd hi'n ymddangos mai nawr yw'r amser i drio gwneud rhywbeth."

Dilyn Bryste

Mae'n dweud bod model Bryste yn un da i ddilyn. Yn y ddinas honno, gall person gyfnewid arian sterling i bres Bryste. Wedyn mae'n bosib defnyddio'r arian mewn nifer o siopau. Mae hefyd yn bosib cael cyfrif Punt Bryste, sy'n golygu talu ar ffurf electronig.

Yn ôl Ms Davis, mae pobl eisiau gwybod lle mae eu harian yn mynd ac mae'r straeon am gwmnïau mawr yn osgoi talu treth yn golygu bod pobl wedi cael "llond bol".

"Mae pobl eisiau rheolaeth a thrwy gael pres lleol mi allwch chi wneud hynny. Os ydych chi'n gwario mewn siop sydd yn derbyn yr arian lleol neu fusnes... yna mi rydach chi'n gwybod bod yr arian yna'n cael ei wario yng Nghaerdydd, yn hytrach na diflannu i rywle arall ac arbed talu treth."

Ond mae'n dadlau y byddai busnesau yn elwa o gael punt Caerdydd hefyd am y bydden nhw'n dangos eu bod wedi ymrwymo i roi arian yn ôl i'r economi leol.

"Mae'n elfen ddeniadol achos mae lot o bobl yn licio teimlo'n dda am y ffordd maen nhw'n siopa."

Yn y tymor hir byddai mwy o siopau annibynnol yn agor am fod yr economi'n lleol yn cryfhau a hynny'n golygu bod gan bobl fwy o arian i'w wario, meddai.

Newid arferion

Image caption Mi fyddai model Bryste yn un da i ddilyn yng Nghaerdydd, meddai Michelle Davis

Er mwyn i'r system weithio mae'n cydnabod y bydd yn rhaid iddi fod yn ddidrafferth. Un ffordd o wneud hyn ydy perswadio cyflogwyr mawr i dalu rhywfaint o gyflogau eu staff yn arian Caerdydd.

Mae hefyd yn credu y byddai pobl yn ystyried eu harferion siopa yn fwy gofalus petai'r bunt yn bodoli.

"Mae pobl wedi colli'r arfer o fynd i'w siop lysiau a ffrwythau, a mynd i'r cigydd, ac mae pobl yn aml wedi eu synnu gyda faint o arian y gallan nhw arbed trwy gael eu ffrwythau a llysiau o siop annibynnol, neu o farchnad Caerdydd, er enghraifft."

Yn ôl Michelle Davis, mae 'na arwyddion bod y bunt ym Mryste yn llwyddo ac ym mis Medi mi fydd hi'n dechrau ar waith ymchwil ar gyflwyno trefn debyg yng Nghaerdydd.

Mae'n credu y byddai angen tua £20,000 i sefydlu'r bunt. Ond mae'n ffyddiog trwy gydweithredu y byddai modd rhannu'r gost rhwng sawl corff.

Y risg mwya', meddai Michelle, yw peidio gwneud dim byd.

"Mi ydyn ni i gyd yn cerdded o gwmpas yn achwyn am y ffaith bod siopau lleol yn cau a'r stryd fawr yn marw....Ond os ydyn ni'n parhau...i achwyn does 'na ddim yn mynd i gael ei wneud am y peth.

"Ond os oes gyda chi rhywun fel Cadwyn yn dweud rydyn ni'n mynd i fynd amdani, dod i wybod mwy am hyn a chymryd y cam nesaf, o leiaf rydyn ni'n dechrau'r sgwrs."

Straeon perthnasol