40 o swyddi pobi mewn perygl yn Abertawe

Bara Hovis Image copyright PA
Image caption Dywedodd y cwmni bod ei cytundeb gyda Hovis wedi dod i ben

Gall 40 o swyddi gael eu colli yn Abertawe ar ôl i gwmni pobi golli cytundeb cynhyrchu.

Dywedodd Swansea Bakeries Ltd eu bod yn ymgynghori gyda staff ar ôl iddyn nhw golli cytundeb gyda Hovis.

Ychwanegodd y cwmni y byddai'r gwaith yn symud i safle yn Avonmouth, Bryste.

Byddai'r staff o Abertawe yn cael cynnig o waith ym Mryste.

Mewn datganiad, dywedodd Swansea Bakeries Ltd y byddai'r cyfarwyddwyr yn "gwneud popeth yn eu gallu" i geisio lleihau'r swyddi fydd yn cael eu colli.

Ychwanegon nhw: "Mae SBL wedi mwynhau perthynas waith gwych gyda Hovis dros y 15 mlynedd diwethaf ac rydyn ni'n difaru ein bod ni yn y sefyllfa yma.

"Byddwn yn gwneud pob dim y gallwn i helpu pob un o'r gweithwyr."