Alun Cairns yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru

Alun Cairns
Image caption Alun Cairns yw'r AS Ceidwadol dros Fro Morgannwg

Mae Alun Cairns, Aelod Seneddol Ceidwadol Bro Morgannwg, yn is-weinidog newydd yn Swyddfa Cymru, wedi i'r Prif Weinidog David Cameron ad-drefnu ei gabinet.

Yn flaenorol ar y meinciau cefn, mae Mr Cairns yn cymryd drosodd y swydd gan Stephen Crabb, sydd wedi ei ddyrchafu yn Ysgrifennydd Cymru.

Roedd Mr Cairns yn Aelod Cynulliad dros ranbarth Gorllewin De Cymru, cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol yn etholiad cyffredinol 2010.

Mae wedi bod yn aelod o fwrdd ymgynghorol polisi Rhif 10 ers mis Hydref, ond gwrthryfelodd yn erbyn y llywodraeth mewn pleidlais dros refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd.

Mae'r newidiadau yn Swyddfa Cymru yn rhan o'r ad-drefnu cabinet mwyaf sylweddol ers i David Cameron gyrraedd Stryd Downing bedair blynedd yn ôl.

Adeg cyhoeddi adroddiad cynta' Comisiwn Silk yn 2012, dadleuodd Mr Cairns fod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy atebol wrth wario arian cyhoeddus.

Straeon perthnasol