Jones, Jones a Davies

Roedd penodi William Hague yn Ysgrifennydd Cymru yn ôl yn 1995 yn brofiad trawmatig braidd i mi. Hwnnw oedd y tro cyntaf i'r Ysgrifennydd Gwladol fod yn iau na fi. Oedd, mi oedd William yn aelod ifanc o'r cabinet ond roedd ei benodiad yn arwydd fy mod innau'n heneiddio. Meddyliwch sut fi'n teimlo heddiw o glywed ei fod am ymddeol o'r senedd!

Mae'n anodd coelio erbyn hyn cymaint o groeso gafodd pennodiad Hague gan y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru. Doedd a wnelo hynny ddim llawer a phersonoliaeth na daliadau'r gweinidog newydd ond llawer a phersonoliaeth a daliadau ei ragflaenydd, John Redwood! I ddefnyddio'r hen ystrydeb roedd Hague yn ddyn yr oedd modd gwneud busnes ag ef.

Rhyw deimlad digon tebyg sy'r treiddio'r Cynulliad heddiw o glywed bod David Jones ar ei ffordd mas o Dŷ Gwydyr gyda'i ddirprwy Stephen Crabb yn cymryd ei le.

Yr unig wynebau pridd o gwmpas y lle yw rhai'r pum aelod Ceidwadol wnaeth roi eu pennau ar y bloc trwy ddangos mwy o deyrngarwch i'r ysgrifennydd Gwladol na'u harweinydd grŵp. Dyw Andrew R.T Davies ei hun ddim o gwmpas y lle 'ma heddiw. Mae'n mynychu seremoni graddio ei ferch yn Aberystwyth heddiw ond ryw'n amau y bydd 'na ddathliad dwbl yn y Casablanca, y Ffarmers neu le bynnag y mae Andrew wedi bwcio bwrdd!

Ac eithrio'r cyfenw a'u cefndiroedd cyfreithiol does 'na fawr yn gyffredin rhwng David Jones a Phrif Weinidog Cymru chwaith. Teg dweud bod teimladau Carwyn tuag at David bron mor dyner a chynnes a rheiny tuag at Anton duan draw yng nghanolfan galwadau Arriva!

Dyw'r perthnasau personol yma ddim yn ddibwys. Mae modd gofyn, er enghraifft, a fyddai Ysgrifennydd Gwladol gwahanol wedi bod mor barod i herio hawliau deddfu'r Cynulliad yn y llysoedd. Mae'n ddigon posib hefyd na fyddai'r ffrae ynghylch trydaneiddio'r rheilffyrdd wedi bod mor gyhoeddus pe bai Prif Weinidog Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn dod ymlaen gyda'i gilydd.

Nid bod hyn oll yn golygu ei bod wedi cyrraedd gwlad y llaeth a'r mêl. Mae 'na etholiadau ar y gorwel ac mae gan y Ceidwadwyr resymau gwleidyddol da dros barhau i golbio record Llywodraeth Cymru mewn meysydd fel iechyd ac addysg.

Yn gyhoeddus felly fe fydd y cwffio'n parhau ond y tu ôl i ddrysau caeedig mae'n debyg y bydd pethau ychydig yn llai pigog o hyn ymlaen..