Prawf cyntaf Stephen Crabb fel Ysgrifennydd Cymru

Stephen Crabb yn gadael 10 Stryd Downing Image copyright Getty Images
Image caption Mae Stephen Crabb wedi bod yn AS Preseli Penfro ers 2005

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn wynebu ei brawf seneddol cyntaf yn ei swydd newydd ddydd Mercher.

Fe fydd aelodau seneddol o Gymru yn trafod cynnwys Araith y Frenhines yn San Steffan.

Bydd Mr Crabb yn ymddangos gerbron aelodau o'r Uwch-bwyllgor Cymreig.

Daeth penodiad Mr Crabb, oedd yn ddirprwy yn Swyddfa Cymru, ar ôl i David Cameron wneud newidiadau sylweddol i'w lywodraeth - gan gynnwys diswyddo David Jones, AS Gorllewin Clwyd fel Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Mr Crabb ei fod yn fodlon cydweithio gyda'i wrthwynebwyr gwleidyddol.

Roedd perthynas David Jones gyda Llywodraeth Cymru a chydag aelodau Ceidwadol o'r cynulliad cenedlaethol, ar adegau, yn un digon anodd.

Ond dywed Mr Crabb ei fod am weithio yn effeithiol gyda gweinidogion Llafur yng Nghymru.

Mae'n bosib y bydd aelodau seneddol Llafur yn cwestiynu ymddroddiad Mr Crabb i ddatganoli.

Saith mlynedd yn ôl fe wnaeth o awgrymu fod swydd Ysgrifennydd Cymru wedi dod yn ddibwys ac y dylid ei gyplysu gyda rôl arall yn y cabinet.

Mae o nawr yn dweud fod y glymblaid wedi gwneud y swydd yn un gwerth chweil.

Straeon perthnasol